Andrew Cooksley
Cenhadaeth Andrew yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yng Nghymru.
Mae’n buddsoddi yn nyfodol y genedl drwy greu cyfleoedd dysgu rhagorol i bobl ifanc.
Mae’n buddsoddi yn nyfodol y genedl drwy greu cyfleoedd dysgu rhagorol i bobl ifanc.
Magwyd Andrew yng Nghaerdydd a gadawodd yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau. Ar ôl rhoi cynnig ar nifer o swyddi a gweld ei obeithion yn cael eu chwalu dro ar ôl tro, dechreuodd ACT, prif ddarparwr Hyfforddiant Cymru, yn 1988 yn 22 oed. Diolch i'w angerdd a’i weledigaeth ehangodd y cwmni’n gyflym gan greu'r sefydliad arobryn a welir heddiw.
Mae ACT yn darparu swyddi dan hyfforddiant, prentisiaethau a phrentisiaethau uwch i helpu dros 6,500 o ddysgwyr y flwyddyn i gyflawni eu huchelgais gyrfa. Mae’n cyflogi dros 300 aelod o staff mewn saith canolfan ar draws De Cymru ac yn gweithio gyda thros 700 o fusnesau blaenllaw ac 17 o isgontractwyr yng Nghymru.
Ystyrir mai ACT yw'r darparwr hyfforddiant mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Yn ogystal â derbyn adroddiadau eithriadol gan Estyn (Arolygiaeth Ei Fawrhydi Cymru), mae ACT wedi derbyn nifer o wobrau clodfawr am ansawdd yr hyfforddiant y mae’n ei ddarparu, lefel y gwasanaeth y mae’n ei gynnig a’r effaith a gaiff ar Gymru, gan gynnwys:
- 100 Cwmni Gorau’r Sunday Times yn y DU 2015
- Gwobr Darparwr ar gyfer Ymatebolrwydd Cymdeithasol, Gwobrau Prentisiaeth 2014
- Gwobr Ysbrydoli Talent Ifanc Wales and West Utilities, Gwobrau Busnes Cyfrifol Busnes yn y Gymuned 2014
- Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn 2013 a 2010.
Yn dilyn llwyddiant ACT yng Nghymru, uchelgais Andrew yw tyfu’r busnes yn Lloegr a chyflenwi eu contract cyntaf erioed dros y ffin a dechrau datblygu busnes ledled y DU.