Allan Meek
Mae Allan Meek yn entrepreneur ac yn arweinydd busnes llwyddiannus yng Nghaerdydd.
Dilynodd Allan Meek, a aned yng Nghaerdydd, brentisiaeth peirianneg gwasanaethau adeiladu a gweithiodd fel rheolwr prosiect yn y diwydiant adeiladu cyn dechrau ei gwmni ei hun, SCS Group, ym 1992.
Mae SCS, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd gyda chyfleuster gweithgynhyrchu yn Dorset a swyddfeydd yn Llundain a Portsmouth, wedi tyfu i fod yn arbenigwr blaenllaw mewn rheoli mwg ar gyfer diogelwch tân mewn adeiladau uchel.
Mae'r cwmni'n rhagori wrth ddarparu atebion llwyddiannus ar gyfer prosiectau mawr cymhleth ledled y wlad. Mae SCS wedi cwblhau miloedd o adeiladau ledled y wlad yn llwyddiannus gan gynnwys ailddatblygu Gorsaf Bŵer Battersea, y Felodrom Olympaidd, a'r rhan fwyaf o'r adeiladau uchel yng Nghaerdydd, gan gynnwys adeilad CThEM, y Sgwâr Canolog, a'r Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd.
Cafodd SCS ei gaffael gan Systemair, y busnes system awyru o Sweden, yn 2023. Gadawodd Allan y cwmni yn 2024 ac mae bellach yn cynnig ymgynghoriaeth i fusnesau sydd am dyfu.
Ac yntau’n credu'n gryf mewn ymgysylltu â gweithwyr fel ffynhonnell o fantais gystadleuol, mae gan Allan MBA o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae ganddo brofiad helaeth mewn hyfforddi trwy ei rolau blaenorol yn The Prince’s Trust a'r rhaglen Help to Grow.
Y tu allan i'r gwaith mae Allan yn mwynhau fforio a heriau. Fe gyflawnodd y gamp o ddringo Mynydd Everest yn 2017.
“Yn fy nghyfnod fel Entrepreneur Preswyl Gwerth Cyhoeddus, rwyf wedi rhoi sgyrsiau i fyfyrwyr ac wedi mentora ar y rhaglen Help to Grow sydd wedi bod yn hynod o foddhaol. Rwy'n mwynhau clywed safbwyntiau gwahanol, dysgu am sefydliadau newydd a'u dulliau o ymdrin â masnach, a rhannu gwersi rwyf wedi'u dysgu ar fy nhaith fusnes o ddechrau i ymadael.”