Ewch i’r prif gynnwys

Aimee Bateman

Ar ôl degawd yn gweithio ym maes recriwtio corfforaethol, roedd Aimee Bateman yn teimlo'n anfodlon. Roedd hi’n dymuno helpu unigolion angerddol oedd yn chwilio am waith i ddod o hyd i'w llais a'i gyfleu mewn marchnad gystadleuol iawn.

Felly, prynodd gamera ail-law ar eBay a dechrau creu fideos yn rhoi cyngor gyrfa ar YouTube o'i lolfa. Doedd ansawdd y cynhyrchu ddim wastad yn wych – ymddangosodd chath mewn un fideo, fel y gwnaeth lasagne microdon mewn un arall – ond roedd y cynnwys yn arbennig.

O’r fan hon, lansiodd Aimee ei thaith fel sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol y wefan e-ddysgu a gyrfaoedd arobryn, Careercake.com. Gwerthodd y cwmni yn 2022 i SocialTalent, arweinydd byd ym maes e-ddysgu, ar ôl cefnogi dros 10 miliwn o weithwyr proffesiynol mewn 42 o wledydd. Mae Aimee bellach yn gweithio fel hyfforddwr, mentor a siaradwr llawrydd, gan ymddangos yn aml ar y teledu a chyfryngau eraill fel arbenigwr gyrfaoedd.

Acoladau

Enillodd Aimee Wobr Talent ac Arloesedd yng Ngwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn 2013. Yn 2014 cafodd ei henwi'n Farchnatwr y Flwyddyn y Sefydliad Siartredig Marchnata, yr un flwyddyn ag y cyflwynodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd Gymrodoriaeth er Anrhydedd iddi am ei chyfraniad i yrfaoedd a’r gymuned yn gyffredinol.

Ers hynny mae Aimee wedi sefydlu ei hun fel arbenigwr recriwtio ac mae'n ymddangos ar raglenni blaenllaw fel X-Ray ar BBC Cymru, Cash Mob ar BBC Three a BBC Learning, yn ogystal â cholofnau a sylwebaeth mewn cylchgronau masnach a'r wasg genedlaethol.

Yn 2015 cyflwynodd Aimee sgwrs a dderbyniodd ganmoliaeth uchel i'r gymuned Tedx o'r enw: Judgment. Don't let it frighten you.

YouTube video of Tedx talk

“Pan fydd person yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed a’i werthfawrogi yn ei yrfa, mae’n cael effaith gadarnhaol ar bob rhan o’i fywyd,” meddai.

“Rydw i wrth fy modd yn gallu helpu pobl i fod yn hapusach ynddyn nhw eu hunain a bod yn well mamau, tadau, gwragedd, gwŷr, brodyr, chwiorydd, meibion a merched. Rhan o hynny yw helpu pobl i ddeall eu gwerth – gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn wirioneddol bwysig.”

Gweithgareddau gydag Ysgol Busnes Caerdydd

Mae Aimee wedi cymryd rhan mewn trafodaethau bwrdd crwn gyda myfyrwyr MBA, gan rannu ei thaith entrepreneuraidd.