Ewch i’r prif gynnwys

Victoria Ward

Mae Victoria wedi treulio llawer o'i gyrfa yn ymroddedig i'r busnes o greu a chyflwyno strategaethau i gefnogi gwytnwch a chynaliadwyedd o fewn y sector nid-er-elw, yn bennaf ar gyfer chwaraeon.

Mae hyn wedi cynnwys gweithio gyda Chwpan Ryder Cymru, Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, Coca-Cola a McDonalds. Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi gwasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Chwaraeon Cymru, gan ysgogi newid ym mhob agwedd ar y busnes o strwythurau llywodraethu i ddatblygiad masnachol. Victoria hefyd oedd yn gyfrifol am gefnogi chwaraeon yng Nghymru i lywio drwy heriau Covid-19.

Mae'n aelod o Fwrdd Cynghori Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd a hi yw sylfaenydd ac Ymddiriedolwr y Sefydliad Chwaraeon Cymreig newydd, gyda chenhadaeth graidd i sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i unrhyw blentyn yng Nghymru sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.