Ewch i’r prif gynnwys

Sharanne Basham-Pyke

Sharanne yw Cyfarwyddwr Shad Consultancy Ltd sy'n rhoi cyngor busnes proffesiynol i'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Mae ganddi hefyd yrfa bortffolio yn Angel Busnes i nifer o fusnesau bach sy'n amrywio o fusnesau newydd i rai sefydledig, ond pob un yn debyg o ran eu hawydd i dyfu.

Mae gan Sharanne brofiad o weithio yn y byd corfforaethol ers iddi ymuno â BT ym 1999 ar ôl gweithio ym maes ymgynghoriaeth rheoli. Mae ei phrofiad yn cynnwys gweithio â chwsmeriaid yn y llywodraeth, y sector preifat byd-eang a'r trydydd sector.

Arweiniodd Sharanne fentrau ar gyfer Strategaeth a Chynllunio Busnes yn BT Global Services (£7.8 biliwn). Arweiniodd raglen ehangu fawr ar gyfer Cynadledda BT yn Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia ac America Ladin. Hi hefyd oedd yn arwain y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer ‘Unlocking the Talent' - rhaglen a sefydlwyd gan Gadeirydd BT, Syr Mike Rake, i feithrin meddylfryd y waelodlin driphlyg ledled BT yn fyd-eang.

Cyn hyn, treuliodd Sharanne gyfnod secondiad gyda Busnes yn y Gymuned i arwain y Rhaglen Parth Carbon Isel ym Mlaenau'r Cymoedd. Derbyniodd y rhaglen ganmoliaeth nodedig gan y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn ogystal â Gweinidogion Cynulliad Cymru a'i Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru.

Cyn hynny, yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Cleient ar gyfer Llywodraeth Ddatganoledig yng Nghymru, Sharanne oedd yn gyfrifol am feithrin busnes BT ar gyfer holl fusnesau trawsnewidiol y llywodraeth, TGCh a busnes traddodiadol yng Nghymru. Rheolodd dîm mawr o adnoddau a datblygodd bartneriaethau strategol i dyfu’r sector hwn yn sylweddol yng Nghymru. Roedd y refeniw yn fwy na £40 miliwn y flwyddyn.

Mae hi’n Aelod o Fwrdd Cynghori Rhyngwladol Ysgol Busnes Caerdydd, yn aelod o Fwrdd Rhyngwladol Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, yn fentor i uwch heddwas a pheiriannydd o Rolls-Royce, yn hwylusydd ac yn hyfforddwr arweinyddiaeth ar gyfer yr Ymgyrch dros Arweinyddiaeth (y Gymdeithas Ddiwydiannol gynt), yn ymgyrchydd dros grwpiau addysg ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, ac yn gyn-aelod Bwrdd ar gyfer Cymdeithas Tai yng Nghymru lle bu hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Chydnabyddiaeth Ariannol.

Mae Sharanne yn byw yng Nghasnewydd, De Cymru. Mae'n briod ac mae ganddi ddau o blant a gafodd eu haddysg yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, sy’n ysgol Gymraeg.