Raj K Aggarwal OBE, Dirprwy Arglwydd Raglaw
Mae Raj Aggarwal yn Fferyllydd Cymunedol ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Aggarwal. Astudiodd Raj yn Ysgol Fferylliaeth Cymru, a graddiodd ym 1972.
Roedd yn uwch reolwyr ar Boots plc tan 1983 - yn rhan o’r rôl yma roedd yn rheoli siopau mawr ledled y wlad. Mae'n Aelod o Fwrdd y Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
Mae'n golofnydd Iechyd Cymru ar gyfer y Western Mail, ymgynghorydd ar amryw o bwyllgorau Iechyd a Fferyllol ac yn gyn-aelod o Grŵp Cyflenwi Strategol Fferylliaeth Weinidogol. Derbyniodd wobr Entrepreneur Busnes Fferylliaeth y Flwyddyn y DU yn 2010 ac yn 2012 cafodd ei anrhydeddu â gwobr arbennig y Welsh Chemist Review am gyfraniad eithriadol i Fferylliaeth.
Mae Raj wedi rhoi o’i amser ar gyfer gweithgarwch dyngarol, mae’n Gadeirydd Sefydliad Aren Cymru ac yn aelod o Fwrdd Canolfan Mileniwm Cymru. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr ac yn aelod o Fwrdd Clwb Busnes Caerdydd a Chyngor Busnes Rhyngwladol Cymru ac yn gyn-aelod o Gyngor Prifysgol Caerdydd, sy’n brifysgol Grŵp Russell. Mae wedi derbyn cymrodoriaeth gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Yn 2012, Raj oedd y person cyntaf i’w benodi’n Gonswl Anrhydeddus India i Gymru gan Arlywydd India, ac mae hefyd yn Llywydd y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru, sy'n cynrychioli 30 o Gonsylau Anrhydeddus. Ef hefyd yw Dirprwy Arglwydd Raglaw De Morgannwg.
Dyfarnwyd OBE i Raj yn 2007 am wasanaethau i fferylliaeth, y gymuned Asiaidd ac elusennau.