Howard Thomas
Ysgolhaig uchel ei barch yw Howard Thomas, sydd â chymrodoriaethau o Academi Reoli UDA (AOM), Academi Reoli Prydain (BAM), Academi Reoli Ewrop (EAM), y Gymdeithas Rheoli Strategol (SMS), Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol (ACSS), Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW), a Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IOD).
Ef oedd Deon Coleg y Cymrodyr (2019-2022) Academi Reoli Prydain a dyfarnwyd iddo hefyd Wobr Cyflawniad Oes Richard Whipp Academi Rheoli Prydain yn 2013, Medal Arweinyddiaeth Cooper yn 2022 yn ogystal â Gwobr Arweinyddiaeth Strategol gan y Gymdeithas Ysgolion Busnes Colegol Rhyngwladol (AACSB) yn 2014.
Mae’n gydymaith i Gymdeithas Ysgolion Busnes y DU, ac yn gyn-gadeirydd bwrdd y Cyngor Derbyn Graddedigion Rheoli (GMAC), y Gymdeithas Ysgolion Busnes Colegol Rhyngwladol, y Gymdeithas Ysgolion Busnes (CABS), a’r Sefydliad Addysg Rheoli Fyd-eang (GFME).
Mae hefyd yn un o sylfaenwyr Ymchwil Gyfrifol ym maes Busnes a Rheoli (RRBM), ac yn aelod oes er anrhydedd, ac yn gyn is-lywydd a chyn aelod o fwrdd Ysgolion Busnes y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Maes Rheoli (EFMD). Bu’n Llywydd y Gymdeithas Rheoli Strategol yn ogystal â Deon y Cymrodyr.