Ewch i’r prif gynnwys

Helen Walbey

Mae Helen Walbey yn arweinydd ac yn eiriolwr sy’n angerddol dros hyrwyddo cynhwysiant ariannol a chydraddoldeb rhywedd yn fyd-eang.

Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes busnes, menter, polisi a’r byd academaidd, ac mae’n chwarae rhan ganolog wrth ysgogi mentrau sy'n grymuso menywod a chymunedau a ymyleiddiwyd trwy systemau a pholisïau ariannol cynhwysol.

Hi yw Arweinydd Partneriaethau Byd-eang AFI, sef rhwydwaith sy’n cynnwys 90 o lunwyr polisi a rheoleiddwyr ariannol, ac mae Helen yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol ar gyfer unigolion mewn economïau sy'n datblygu. Mae hi'n arwain ymdrechion meithrin partneriaethau ac eiriolaeth byd-eang AFI wrth leoli gwaith aelodau AFI yn yr ecosystem fyd-eang. Mae ei harbenigedd ym maes cynllunio strategol, rhoi prosiectau ar waith, datblygu partneriaethau a pholisïau ariannol sy’n ystyriol o rywedd wedi ei sefydlu yn ffigur uchel ei pharch ym maes cynhwysiant ariannol byd-eang.

Cyn AFI, roedd Helen yn aelod o Dasglu Ecwiti Rhywedd T20, gan gyfrannu at drafodaethau rhyngwladol ar gydraddoldeb rhywedd. Hi oedd Cadeirydd cyntaf Bwrdd Cynghori Llywodraeth Cymru ar Entrepreneuriaeth ymysg Menywod ac roedd yn Ddeiliad Portffolio’r Deyrnas Unedig ar gyfer Cefnogaeth, Amrywiaeth, ac Unedau Polisi’r Swyddfa Gartref yn y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB).

Yn ogystal â hyn, treuliodd Helen bedair blynedd yn y byd academaidd, gan ddatblygu ymhellach ei harbenigedd ym maes grymuso rhywedd ac economaidd.

Mae ei heiriolaeth yn ymestyn y tu hwnt i gynhwysiant ariannol; mae hi'n gefnogwr brwd o ddatblygu cynaliadwy a stiwardiaeth amgylcheddol, gan gydnabod cydgysylltiad cydraddoldeb rhywedd, twf economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol. A hithau’n arweinydd blaenllaw, mae hi'n siaradwr, cynghorydd a mentor poblogaidd, gan ymgysylltu'n rheolaidd â llunwyr polisi, sefydliadau ariannol a sefydliadau rhyngwladol.