Vishal Singhvi (MBA 2001)
Vishal Singhvi yw Cyfarwyddwr Mentrau Strategol Microsoft Asia ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ac yn arwain integreiddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Dysgu Peirianyddol (ML) mewn meysydd busnes allweddol, gan bwysleisio arferion moesegol.
Mae'n arweinydd meddyliau nodedig, ac yn aml yn cyfrannu ei arbenigedd mewn digwyddiadau dadansoddeg a diwydiant o bwys, ac yn dylanwadu ar gymhwyso AI ar draws sectorau. Cyn Microsoft, diffiniodd Vishal strategaeth AI Mastercard Asia, gan ddangos ei arbenigedd mewn trosoli technoleg ar gyfer twf strategol. Mae ei gefndir yn cynnwys MBA mewn Cyllid a Strategaeth Gorfforaethol o Brifysgol Caerdydd, a gyfoethogodd ei ddull technoleg-ganolog gyda sylfaen ariannol a strategol gref.
Mae gweledigaeth Vishal yn canolbwyntio ar ysgogi twf cynaliadwy ac arloesedd trwy ddefnydd cyfrifol o AI, gan ei sefydlu’n ffigur canolog wrth fabwysiadu datrysiadau AI trawsnewidiol yn y byd busnes a'r sector Addysg.