Sylvi Burton (BSc 2016)
Mae Sylvi yn Rheolwr Prosiect yn Network Rail, ac yn gweithio ar un o brosiectau rheilffyrdd arfaethedig mwyaf y DU.
Mae Cam 1 Cysylltiad Rheilffordd y Dwyrain a’r Gorllewin (EWR CS1) yn gynllun seilwaith gwerth tua £1 biliwn a fydd yn cyflwyno gwasanaethau hanfodol i deithwyr rhwng Rhydychen a Milton Keynes. Dyma’r cam cyntaf tuag at gyflawni dyhead ehangach EWR o gysylltu Rhydychen a Chaergrawnt ar y rheilffordd.
Mae arbenigedd Sylvi o’i chyfnod ym maes Rheoli Prosiectau ac ym maes nawdd cyn hynny, yn cynnwys rheoli rhanddeiliaid, sefydlu gofynion a llywio cynnydd wrth i heriau godi.
Mae Sylvi yn cydnabod bod y profiad a gafodd yn Ysgol Busnes Caerdydd (CARBS) wedi dylanwadu’n fawr ar ei llwyddiant. Graddiodd yn 2016 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn BSc Rheoli Busnes a Chyllid.
Mae'n edrych ymlaen at ddefnyddio ei phrofiadau i helpu i greu newid cadarnhaol yn Fforwm Cynghori Cyn-fyfyrwyr CARBS ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cefnogi ymrwymiad CARBS i sicrhau bod gwerth cyhoeddus yn greiddiol i waith ymchwil.