Ewch i’r prif gynnwys

Rose Keffas (MSc 2010)

Mae Rose Keffas yn arbenigwr datblygu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac yn arweinydd strategol gyda 15 mlynedd o brofiad ym maes datblygiad economaidd, cymdeithasol a chymunedol.

Ar ôl ei MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol o Brifysgol Caerdydd dechreuodd ei gyrfa ym maes Adnoddau Dynol – yn cynghori, datblygu a chynorthwyo’r gwaith o roi gweithdrefnau ar waith, ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel Cynorthwyydd Arbennig ar gyfer Polisïau, Strategaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol i Gynghorydd Arbennig Arlywydd Nigeria ar nodau datblygu cynaliadwy.  

Mae Rose yn Eiriolwr arobryn ar gyfer nodau datblygu cynaliadwy yn Nigeria. Mae Rose yn siaradwr byd-eang ar y 'Nodau Byd-eang', mae hi wedi cael ei gwahodd yn fyd-eang ac yn lleol i rannu gwybodaeth ar Agenda 2030 ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae Rose wedi cael ei henwi ar y rhestrau a ganlyn: y bobl fwyaf dylanwadol o dras Affricanaidd o dan 40 ym maes Llywodraeth (2020), 100 o Fenywod â Gyrfaoedd Blaenllaw (2022) a 50 o fenywod Affricanaidd ym maes datblygu (2023).

Mae Rose yn rhan o raglen fentora Menywod yn Mentora 2024 Prifysgol Caerdydd, sy'n anelu at ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

  • Dadansoddwr Polisi Cyhoeddus
  • Eiriolwr dros y Nodau Datblygu Cynaliadwy
  • Cyllid Cynaliadwy
  • Buddsoddiadau gyda’r Nodau Datblygu Cynaliadwy
  • Llywodraethu Corfforaethol
  • Cynaliadwyedd