Richard Avery-Wright (BSc 1995)
Mae Richard, myfyriwr graddedig o Brifysgol Caerdydd (BSc Gweinyddu Busnes, 1992-95), yn fuddsoddwr medrus gyda bron i bedwar degawd o brofiad ym maes marchnadoedd cyhoeddus a phreifat.
Mae’n benderfynol o lwyddo, ac mae wedi sefydlu ei hun yn entrepreneur medrus sydd wedi cychwyn nifer o fusnesau.
Mae gan Richard brofiad ym meysydd, cyfalaf menter, dyled breifat, ecwiti cyhoeddus, deilliadau ecwiti, ac amrywiaeth o feysydd ariannol, sy’n golygu bod ganddo wybodaeth a phrofiad eang am ystod o wasanaethau ariannol.
Mae Richard wedi chwarae rhan allweddol wrth sefydlu mentrau amrywiol ar y cyd ag eraill. Ymhlith y rhain yn enwedig mae Pie Funds Management, Castle Point Funds Management, RAW Capital Partners, Wealthify, ac 1818 Venture Capital.
Yn 1818 Venture Capital, mae Richard wedi arwain dros 40 o fuddsoddiadau i fusnesau yn eu cyfnod cynnar ac sydd wedi’u hwyluso drwy dechnolegau digidol yn y Deyrnas Unedig a’r Dwyrain Canol.
Mae Richard hefyd yn meddu ar brofiad helaeth o arwain byrddau, lle mae wedi gwneud ystod o swyddi gwahanol mewn nifer o gwmnïau graddfa FTSE.