Max Foster (BSc 1994) - Gweinyddu Busnes
Mae Max Foster yn gyflwynydd ar CNN ac yn ohebydd yn Llundain. Mae’n brif gyflwynydd ar raglen CNN Newsroom gyda Max Foster, yn darlledu am 4 y bore ET bob diwrnod o’r wythnos.
Mae hefyd yn adrodd ar straeon y tu allan o Ewrop ar gyfer CNN US a cnn.com. Ers ymuno â'r rhwydwaith yn 2005, mae Max wedi cymryd rhan ganolog wrth roi sylw i ddigwyddiadau mwyaf y byd, yn aml yn cyflwyno’n fyw o’r lleoliad.
Mae wedi cyfweld â nifer o unigolion, gan gynnwys Donald Trump a Steve Jobs, a phob un o uwch-aelodau Teulu Brenhinol Prydain.
Mae Max yn fyfyriwr graddedig o Brifysgol Caerdydd gyda gradd Baglor yn y Gwyddorau mewn Gweinyddu Busnes, cyn cwblhau diploma ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth ddarlledu yng Ngholeg Highbury, Portsmouth. Bu’n gweithio am 10 mlynedd gyda’r BBC cyn ymuno â CNN, yn fwyaf nodedig fel gohebydd busnes ar gyfer y BBC World Service a BBC Breakfast.