Ewch i’r prif gynnwys

Madhuban Kumar (MBA 1996)

Mae gan Madhuban dros 26 mlynedd o brofiad ar draws sawl sector ym maes ynni a chyllid, ac mae ganddi hefyd arbenigedd ym meysydd data, deallusrwydd artiffisial (AI) a phreifatrwydd.

Mae Madhuban wedi gweithio gyda chwmnïau mawr (GSK, Fiserv), cronfeydd menter (Insight Partners), ac wedi sefydlu dau egin fusnes, gan gynnwys CarbonLaces.

Buodd Madhuban yn eistedd ar Fyrddau Cynghori yn Centrica, lle gwnaeth hi ailstrwythuro’r cwmni ac ymadael cyn mynd ymlaen i sefydlu CarbonLaces. Ffocws gwaith y cwmni hwnnw yw’r croesdoriad rhwng ynni, cyllid a'r hinsawdd. Mae Madhuban yn mwynhau chwarae gyda'i chi, darllen a theithio i ynysoedd anghysbell yn ei hamser sbâr, a’i gobaith yw helpu cyn-fyfyrwyr i dyfu eu rhwydwaith sylfaenol drwy ddull sydd â’r gymuned yn ei ganol.

  • Datblygu atebion ariannol ym maes yr Hinsawdd
  • Cymrawd ODCT1
  • Sgyrsiau ar gyllid ym maes yr hinsawdd, datgarboneiddio, data, strwythurau cyllido, ac ymchwilio i sefydliadau ymreolaethol datganoledig (DAOs) a rhwydweithiau