Ewch i’r prif gynnwys

Konstantinos Kousouris (BSc 2021) – Rheoli Busnes

Entrepreneur Technoleg Ariannol a Deallusrwydd Artiffisial (AI) yw Konstantinos, ac mae yntau ar restr 30 o dan 30 oed yng Ngwlad Groeg gan Forbes ar gyfer 2024.

Konstantinos yw sylfaenydd Blink a’i Brif Swyddog Gweithredol. Ap cyllidebu label gwyn yw Blink, sydd wedi'i ddylunio’n benodol i helpu myfyrwyr prifysgol i reoli eu harian. Mae ei ap arobryn (a enillodd y gystadleuaeth egin fusnesau fwyaf gan Fanc Cenedlaethol Gwlad Groeg!) yn defnyddio cyllidebu personol a chanllawiau AI er mwyn grymuso myfyrwyr i fod yn fwy gwybodus o ran rheoli eu harian.

Mae Blink wedi’i gefnogi gan Startupbootcamp, sef buddsoddwr byd-eang o bwys ym maes technoleg ariannol. Mae ymroddiad Konstantinos i faes arloesedd ariannol hefyd wedi cael ei gydnabod yn ystod Gwobrau Byd-eang i Entrepreneuriaid sy’n Fyfyrwyr (Gwlad Groeg), a chan lysgennad y DU yng Ngwlad Groeg yn ystod Gwobrau Arloesedd a Busnes i Gyn-fyfyrwyr y DU.

  • 30 o dan 30 oed gan Forbes – Gwlad Groeg
  • Cyd-sylfaenydd Blink
  • Ariennir gan Siarter y Busnesau Bach (SBC)
  • Homo Universalis dyheadol
  • Yn agored i bartneriaethau
  • Selogion Dechrau Busnes
  • Hapus i helpu