Dr Simon Tew (PhD 2014)
Mae Dr Simon Tew wedi gweithio yng ngwasanaeth sifil y DU ers 1996.
Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yn arwain gwaith datblygu polisi yn Llywodraeth Cymru mewn amrywiaeth o feysydd pwnc – gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, rheoli gwybodaeth, trafnidiaeth, datblygu economaidd, cyllid llywodraeth leol ac yn fwyaf diweddar cynaliadwyedd amgylcheddol.
Ar ôl astudio'n rhan-amser, graddiodd o Ysgol Busnes Caerdydd yn 2014 gyda gradd PhD yn dilyn prosiect ymchwil helaeth yn canolbwyntio ar ddysgu sefydliadol.
Mae gan Simon ddiddordeb brwd parhaus mewn arweinyddiaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus, ac mae wedi ymrwymo i gryfhau cysylltiadau rhwng ymchwil ac ymarfer. Mae’r ddealltwriaeth a’r profiadau a gafodd yn ei rôl fel arweinydd yn cael eu hategu gan waith y mae’n ei wneud yn aelod o bwyllgor undeb llafur yr FDA o fewn Llywodraeth Cymru, yn cynrychioli ac yn gweithredu ar ran rheolwyr a gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth sifil.