Ewch i’r prif gynnwys

Dan Kennedy (EMBA 2020)

Graddiais o'r rhaglen MBA Gweithredol yn 2020 ac ar hyn o bryd rydw i’n Rheolwr Adnoddau Dynol gyda Capital Law yng Nghaerdydd.

Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag Ysgol Busnes Caerdydd ac yn gobeithio defnyddio fy mhrofiad proffesiynol a dealltwriaeth academaidd i helpu i lunio dyfodol yr ysgol.

Mae fy llwybr gyrfaol wedi bod yn anghonfensiynol gan i mi ddechrau gweithio’n syth o’r ysgol a threulio dros ddegawd yn y sector gwasanaethau ariannol cyn cael fy mhrofiad cyntaf yn y byd academaidd. Er nad ydw i wedi dechrau gydag addysg brifysgol, rydw i wedi dod i ddeall pwysigrwydd integreiddio gwybodaeth ymarferol â dysgu academaidd.

Rydw i’n edrych ymlaen at gyfrannu at dwf a datblygiad Ysgol Busnes Caerdydd ac rydw i’n awyddus i gefnogi CARBS a’r gymuned myfyrwyr drwy rannu fy arbenigedd lle bynnag y mae ei angen.

  • MBA
  • Arbenigwr mewn Ymgysylltu â Phobl a Strategaeth Adnoddau Dynol