Beth Rogers (BSc 2016) - Rheoli Busnes
Graddiodd Beth o Brifysgol Caerdydd yn 2016 ar ôl astudio Rheoli Busnes ac mae wedi treulio’r wyth mlynedd diwethaf yn gweithio yn y diwydiant adeiladu.
Dechreuodd ei gyrfa gyda swydd Datblygu Busnes i raddedigion gyda Balfour Beatty a datblygodd ei gyrfa yno i fod yn Uwch-reolwr Ceisiadau a Chynigion, cyn gadael i ymuno â Kier Natural Resources, Nuclear and Networks ym mis Mehefin 2023. Beth yw Pennaeth Rheoli Cynigion Kier. Mae hi’n arwain tîm i reoli tendrau’n llwyddiannus ar draws sectorau lluosog, sy’n amrywio mewn gwerth o £10miliwn – £1biliwn.
Beth oedd y cyntaf yn ei theulu i fynd i’r brifysgol, ac mae hi’n gwerthfawrogi sut mae addysg bellach yn hwyluso mwy o gyfleoedd gyrfaol. Mae'n falch iawn ei bod wedi’i dewis i fod yn rhan o Fforwm Cynghori Cyn-fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd i gefnogi dyheadau hirdymor yr Ysgol Busnes i wella profiadau myfyrwyr.