Ewch i’r prif gynnwys

Angelos Georgiou (MBA 2000)

Graddiodd Angelos gydag MBA o Ysgol Busnes Caerdydd yn 1999.

Yn dilyn hynny, ers bron i ddau ddegawd a hanner, bu mewn sawl rôl ym maes gwerthiant a marchnata, gan gynnwys swyddi rheoli, mewn sectorau gan gynnwys nwyddau traul sy’n symud yn gyflym, ymchwil i'r farchnad a thelathrebu.

Mae Angelos wedi teithio ar draws pedair marchnad Ewropeaidd yn ystod ei yrfa, i’w gynhenid yng Ngwlad Groeg, y Deyrnas Unedig, Bwlgaria a Hwngari, ble mae’n bartner cyfrif byd-eang yn Vodafone ar hyn o bryd.

Ei rôl yw rheoli’r berthynas fyd-eang gyda 15 o gwsmeriaid busnes i fusnes mawr, gan gyfrif tuag at refeniw uwch na 7 miliwn ewro. Ymhlith y cwmnïau bu Angelos yn gweithio iddyn nhw’n flaenorol yw Danone, Arla Foods ac AC Nielsen.

Yn ystod ei amser hamdden, mae'n mwynhau teithio, darllen, gwylio chwaraeon ac wrth gwrs treulio amser gyda’i deulu a ffrindiau.