Abubakar Askira (MBA 2002)
Mae ganddo atgofion melys o fod yn fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd (MBA 2001).
Ymunodd Abubakar â Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2022 yn Gyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Mae ganddo helaeth o arbenigedd cynllunio strategol, rheoli rhaglenni a sefydlu llywodraethu corfforaethol effeithiol.
Bu Abubakar yn gweithio yn y sector wirfoddol a'r sector cyhoeddus yn ystod ei yrfa. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, bu’n gweithio i Ofal Cymdeithasol Cymru, lle'r oedd yn gyfrifol am arwain ymgysylltiad corfforaethol gyda nifer o randdeiliaid yng ngofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hefyd yn hyfforddwr gweithredol cymwys, gyda Thystysgrif Lefel 7 mewn hyfforddi gweithredol gan ILM.
Mae Abubakar yn angerddol am hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol, ac mae wedi gwirfoddoli mewn amrywiaeth o rolau. Mae Abubakar hefyd wedi gweithio mewn nifer o swyddi anweithredol gan gynnwys yn Gyfarwyddwr Anabledd Cymru ac yn ymddiriedolwr elusen flaenllaw yn y Deyrnas Unedig, er mwyn gwella bywydau plant anabl yn Uganda, Kenya, Tanzania a Rwanda.