Rwy'n sefyll dros_gyfrifoldeb
Rydym ni'n wynebu rheidrwydd dirfodol i sicrhau newid, ond mae hynny'n cyflwyno ei anghysonderau ei hun.
Rhywbeth i'w fwynhau yw bywyd, a does dim rhaid i werth cyhoeddus fod yn gyfyngiad. Yn hytrach, mae'n golygu mwynhau'r byd sydd gennych chi ac ar yr un pryd gyfrannu at gymdeithas er mwyn i bob un ohonom ni allu ffynnu.
Mae'r ethos gwerth cyhoeddus rydym ni'n ei addysgu yn ymestyn i mewn i'n credoau personol, a chaiff ei lywio ganddynt. Rwy'n llysieuwr ac yn aml yn siarad am fuddion cyfunol llysieuaeth. Mae'r ffordd rwyf i'n addysgu yn estyniad o'm cred y dylai'r dysgu hwnnw fod yn rhyngweithiad hwyliog a chadarnhaol.
Mae cysylltu gweithredoedd unigol ag effeithiau lleol a chanlyniadau byd-eang yn helpu pawb i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom i fynd i'r afael â'r problemau byd-eang mawr yn y byd. Ond mae hefyd yn ein helpu i sylweddoli ein bod yn un elfen fach mewn darlun eang a chymhleth - er gwaethaf anghysonderau niferus y byd, gallwn barhau i ymdrechu i fyw mewn ffordd well bob dydd.
Yr Athro Peter Wells
Professor of Business and Sustainability, Director of the Centre for Automotive Industry Research, Pro Dean Public Value
- Ebost:
- wellspe@cardiff.ac.uk