Rwy'n sefyll dros_gydraddoldeb rhywedd
Mae anghydraddoldeb rhywedd yn cynyddu ledled y byd.
Mae menywod a merched yn dal i wynebu gwahaniaethu rhemp ac mewn llawer o lefydd, yn dal i fethu manteisio ar addysg, annibyniaeth ariannol a chydraddoldeb ariannol.
Pan gaiff menywod a merched eu grymuso i chwarae rolau gweithredol mewn cymdeithas, bydd cymunedau a'r gymdeithas ehangach yn symud ymlaen.
Mae cydraddoldeb rhywedd hefyd yn golygu gwell busnes. Mae cwmnïau sydd ag arweinyddiaeth gynhwysol ac amrywiol yn tueddu i wneud penderfyniadau gwell ac maen nhw’n fwy llwyddiannus.
Mae angen i fusnesau gydnabod eu diwylliant corfforaethol eu hunain cyn y gallant gael effaith gadarnhaol ar lefel facro. Er enghraifft, hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, lleihau'r bwlch rhywedd a sicrhau mwy o fenywod mewn rolau arweinyddiaeth ar lefel uwch. Mae adroddiadau ac astudiaethau'n dangos bod y mesurau hyn yn cyfrannu'n aruthrol at yr economi ac at lwyddiant y busnes.
Dim ond y busnesau hynny sy'n ymgorffori gwerth cyhoeddus ym mhopeth maen nhw'n ei wneud sy'n gallu cael effaith ar godi grwpiau sydd ar yr ymylon.
Mae newidiadau ar y ffordd, ac rwy'n gobeithio rhyw ddydd y byddwn ni'n cyrraedd pwynt lle na fydd angen y sgwrs ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mwyach.
Apoorva Shridhar, Gweinyddu Busnes gyda Rheolaeth Cyfryngau (MBA 2021)