Taff Cola: Myfyriwr yn rhannu hanes sefydlu busnes diodydd meddal arobryn newydd
Dyma Calvin Bang, myfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd sydd wedi sefydlu busnes diodydd meddal newydd, sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, o'r enw Taff Cola.
Llongyfarchiadau i Calvin am ennill Gwobr Datblygu Arloesol yn ddiweddar yng Ngwobrau Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd. Enillodd wobr o £3000 i helpu i dyfu ei fusnes. Yn rhan o'r broses gystadlu, cyflwynodd Calvin ei syniad gerbron panel o arbenigwyr busnes.
Cyrhaeddodd Calvin hefyd rownd derfynol Gwobrau Cychwyn Busnes y DU yng nghategori Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn.
Buom yn siarad â Calvin i gael gwybod mwy...
Dywedwch wrthym am Taff Cola Limited.
Mae Taff Cola yn ddiod feddal newydd gyffrous sy'n gymdeithasol gyfrifol ac yn flasus dros ben. Gyda'i ffocws ar gynhwysion lleol a chalorïau is, mae Taff Cola yn cynnig cyfle unigryw i'r farchnad, gyda phwyslais ar gofleidio treftadaeth Cymru.
Cofrestrais i Taff Cola Limited ar 23 Chwefror 2024, ond ym mis Rhagfyr y llynedd y dechreuodd y syniad o’i ddatblygu. Dechreuais weithio ar rysáit elfennol yn gynnar eleni ac ar ôl bron i 5 mis o brofi trylwyr gyda chymorth Zero2Five (a ariennir gan Lywodraeth Cymru), lluniais rysáit flasus dros ben heb unrhyw galorïau, unrhyw siwgr, nac unrhyw gemegau artiffisial.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i sefydlu'r cwmni hwn?
Rwy’ am ddemocrateiddio’r diwydiant diodydd meddal yng Nghymru drwy osod esiampl gyda gonestrwydd a thryloywder. Rwy’ hefyd eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned am i mi gael fy ngeni a'm magu yng Nghymru ac rwy’n caru’r wlad hon gymaint.
Sut deimlad yw ennill y wobr?
Mae'n teimlo'n anhygoel. Mae ennill nid yn unig wedi cael effaith ar fy mywyd ond hefyd ar y bobl o'm cwmpas, o’m teulu a’m ffrindiau i'm partner anhygoel sydd wedi credu ynof fi o'r dechrau un. Felly mewn ffordd, nid gwobr yn ymwneud â fi yn unig oedd hi, ond dynododd ei chariad parhaus a'i chefnogaeth emosiynol.
Ydych chi wedi derbyn unrhyw gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd i sefydlu Taff Cola?
Ydw, rwy’ wedi derbyn llawer o help gan y tîm Menter a Dechrau Busnes yng ngharfan Dyfodol y Myfyrwyr, yn enwedig gyda Prithpal Biant fel fy ymgynghorydd busnes. Hefyd, cyflwynodd Alice Walden fi i'r ganolfan sbarc|spark a byddant yn darparu gofod swyddfa am ddim i mi am 6 mis! Rhoddodd Dr Mark Goode, athro ar fy nghwrs busnes ychydig o awgrymiadau i mi hefyd.
Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd ethos gwerth cyhoeddus ac ymddengys fod Taff Cola’n arddel y mathau hyn o werthoedd hefyd. A wnaeth elfennau gwerth cyhoeddus eich cwrs ddylanwadu ar eich penderfyniad i sefydlu busnes â gwerthoedd tebyg?
Yn sicr, gwthiodd Ysgol Busnes Caerdydd fi i'r un cyfeiriad ond rwy’ wedi credu’n gryf erioed mewn gwerthoedd cyhoeddus (oherwydd fy nghefndir) gan fy mod yn credu bod Taff Cola yn fenter gymdeithasol a fydd, gobeithio, o fudd i'r gymuned leol ryw ddydd. Roeddwn i'n eithaf lwcus bod fy nghred mewn gwerth cyhoeddus yn cyd-fynd ag ethos Ysgol Busnes Caerdydd!
Pa gyngor sydd gennych i fyfyrwyr a allai fod yn ystyried sefydlu eu busnes eu hunain?
Rwy'n credu, gyda phopeth mewn bywyd, bod y cyfan bob amser yn dechrau gyda'r "pam". Os ydych chi'n ceisio gwneud arian yn unig heb unrhyw ystyriaeth am effaith gymdeithasol, yna rhoi’r ffidil yn y to fyddai fy nghyngor i, ond os ydyn nhw wir yn credu eu bod nhw'n ceisio gwneud rhywbeth er lles y gymuned a bod ganddyn nhw'r dewrder i'w wneud (oherwydd mae'n mynd i fod yn anodd iawn rhai dyddiau!), yna ewch amdani! Nid gwraidd llwyddiant yw faint y gallwch ei gymryd o gymdeithas ond faint y gallwch ei roi iddi.
Beth yw eich camau nesaf ar gyfer Taff Cola Limited?
Byddaf yn gweithio gyda Zero2Five drwy law Arloesi Bwyd Cymru i wneud y profion damcaniaethol ar gyfer rysáit Taff Cola i sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau diogelwch uchaf. Ar ôl hynny, byddwn yn ceisio dod o hyd i ffatri i ddechrau cynhyrchu ar raddfa fawr! Rwy'n bwriadu dechrau cyflenwi'r Taf yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd oherwydd pa le arall sydd ag enw mwy addas i weini Taff Cola?
Dysgwch fwy am Taff Cola drwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
- Instagram: @taffcola
- TikTok: @taffcola
- LinkedIn: Taff Cola Limited
Cymorth i ddechrau busnes
Mae Dyfodol Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr am hyd at dair blynedd ar ôl graddio i ddechrau rhywbeth newydd. P'un a yw'n fusnes newydd, yn yrfa’n gweithio’n llawrydd, neu’n brosiect cymunedol, rydym yn cynnig cymorth wedi'i deilwra sy'n cyfuno mentora busnes arbenigol gyda hyfforddiant manwl a mynediad at gyllid sbarduno a gofod desg.