Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael â thlodi mislif yn Nepal

Pecynnau hylendid yn Siddhiung

Mae gwaith Helen Whitfield, aelod o staff y gwasanaethau proffesiynol yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi cael effaith bwysig yng nghefn gwlad Nepal yn y frwydr yn erbyn tlodi mislif.

Grymuso merched mewn pentrefi anghysbell yn Nepal

Trwy Gymrodoriaeth Gwerth Cyhoeddus, mae gwaith Helen wedi canolbwyntio ar ddarparu datrysiadau mislif cynaliadwy i bentrefi anghysbell yn Nepal, lle mae stigma diwylliannol a mynediad cyfyngedig at gynhyrchion mislif yn gorfodi llawer o ferched i golli ysgol bob mis. Mae'r prosiect yn adeiladu ar ymrwymiad hirsefydlog Helen i'r rhanbarth trwy ei gwaith gydag elusen Marigold Chain.

Stori Marigold Chain

Dechreuodd cysylltiad Helen â Nepal yn 2017 pan gyd-sefydlodd Marigold Chain mewn ymateb i ddinistr daeargryn 2015. Ysbrydolwyd Helen gan ei chysylltiadau â theuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw, ac aeth ati gyda ffrind i lansio'r elusen i helpu pentrefi diarffordd yn y mynyddoedd.

Mae mentrau Marigold Chain wedi cynnwys darparu gwisgoedd ysgol a chitiau chwaraeon, talu ffioedd ysgol rhai plant, a hyd yn oed adeiladu clinig iechyd.

Ar hyd y ffordd, trefnodd Helen deithiau i Nepal gyda myfyrwyr Prifysgol Caerdydd trwy Cyfleoedd Byd-eang, gyda myfyrwyr meddygaeth ac optometreg yn gwirfoddoli eu sgiliau i gynnal gwiriadau iechyd, dosbarthu sbectol, a chyflwyno hyfforddiant cymorth cyntaf.

Y gymrodoriaeth: dosbarthu pecynnau hylendid menywod

Wrth feddwl am y ffordd orau o ddarparu gwerth cyhoeddus i Marigold Chain a phobl Nepal, penderfynodd Helen ganolbwyntio ei Chymrodoriaeth Gwerth Cyhoeddus ar fynd i’r afael â thlodi mislif mewn cymunedau anghysbell. Mae stigma mislif yn Nepal yn aml yn atal merched rhag mynd i'r ysgol, ac mae cynhyrchion mislif untro naill ai'n rhy ddrud neu'n anaddas i seilwaith glanweithdra cyfyngedig yr ardaloedd gwledig.

Roedd Helen yn benderfynol o ddod o hyd i ateb addas i’r amgylchedd lleol, a chododd £2,500 i greu a dosbarthu 330 o becynnau hylendid y gellir eu hailddefnyddio i ferched ar draws tri phentref anghysbell, gan olygu y gallen nhw reoli eu mislif gydag urddas heb amharu ar eu haddysg.

Yn dilyn y gymrodoriaeth, mae Helen wedi cael gwahoddiad i gynnig nifer o brosiectau ar gyfer rhaglen meistr Ysgol Busnes Caerdydd, yn edrych ar broblemau real sy'n wynebu cymunedau gwledig Nepal.

Y Rhaglen Cymrodoriaeth Ymgysylltu â Gwerth Cyhoeddus

Mae rhaglen Cymrodoriaeth Ymgysylltu â Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd yn cefnogi staff i ymgymryd â phrosiectau sydd ag effaith gymdeithasol ystyrlon. Mae cymrodyr yn neilltuo amser ac adnoddau i faterion sy’n effeithio ar gymunedau lleol a rhyngwladol, gan greu newid sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i furiau’r brifysgol.

Helen yn dosbarthu pecynnau hylendid
Helen yn dosbarthu pecynnau hylendid

Buom ni'n siarad â Helen i glywed mwy am ei chymrodoriaeth a Marigold Chain…

Allwch chi son am foment yn ystod y prosiect pan ddealloch chi beth oedd effaith eich gwaith ar y merched a'r cymunedau yn Nepal?

Ar ôl gweithio gyda gweithiwr iechyd cymunedol yn Nepal ers blynyddoedd i ddarparu datrysiadau hylendid Days for Girls, cadarnhaodd ymweliad yn 2019 fy mod am barhau i gefnogi merched a menywod gwledig.

Ym mis Chwefror 2024, ar ôl clywed nad oedd unrhyw becynnau hylendid newydd wedi'u dosbarthu ers cyn COVID-19, sylweddolais fod yn rhaid i mi fynd yn ôl yno a pharhau i ddarparu'r pecynnau, gan nad oedd llawer o ferched wedi eu derbyn, a bod y rhai oedd yn dal i gael eu defnyddio mewn cyflwr gwael. Ymgyrch codi arian 2024 yw fy ymrwymiad mwyaf i ddarparu pecynnau hylendid yn y rhanbarth, diolch i'r Gymrodoriaeth Gwerth Cyhoeddus.

Sut ydych chi'n meddwl mae’r prosiect hwn wedi effeithio ar y gymuned ehangach yn ogystal â darparu pecynnau hylendid yn unig?

Roeddwn i’n disgwyl cryn wrthwynebiad gan y cymunedau lleol, yn enwedig rhai o’r arweinwyr hŷn, gan fod y pecynnau'n golygu newid y dirwedd ddiwylliannol. Ond fe’n croesawyd gyda dathliad oedd yn brofiad rhyfeddol.

Cyn hyn, byddai merched a menywod yn cilio i'r 'cwt cymunedol' yn ystod ddyddiau’r mislif, gan eu gadael yn agored i'r elfennau a glanweithdra gwael, heb allu cyfranogi mewn gweithgareddau ysgol neu gymunedol. Mae'r pecynnau hylendid benywaidd yn golygu y gallan nhw barhau â'u haddysg a chymryd rhan lawn ym mywyd y gymuned, gan leihau’r stigma a’u gwneud yn fwy rhydd. Mae eu mislif bellach yn rhywbeth preifat nad yw'n rhwystro eu dyheadau na'u cyflawniadau personol. Mae'r pecynnau'n newid bywydau, a thrwy'r Gymrodoriaeth Gwerth Cyhoeddus, cefais y fraint o'u dosbarthu a chwrdd â'r menywod wyneb yn wyneb.

Pa heriau wyneboch chi wrth roi’r gymrodoriaeth ar waith, a beth wnaethoch chi i’w goresgyn?

Un her fawr oedd trefnu dosbarthu yn Nepal, dethol y pentrefi i'w cefnogi a chael gwybod y niferoedd cywir o bentrefwyr benywaidd. Defnyddiais y gymrodoriaeth i dalu fy nghostau teithio a lansiais ymgyrch enfawr i godi £2,500 i brynu’r pecynnau i’w dosbarthu.

Gan weithio’n agos gyda phenaethiaid, gweithwyr iechyd a chysylltiadau twristiaeth lleol, cawsom wybod niferoedd cymharol gywir ar gyfer y pentrefwyr benywaidd, ond cymerodd hyn sawl mis a sawl neges a galwad ffôn. Heb y gymrodoriaeth, fyddwn i ddim wedi gallu fforddio mynd yno a bod yn rhan o'r dosbarthu.

Beth yw eich dyheadau ar gyfer Marigold Chain yn y blynyddoedd nesaf?

Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r ysgolion cymunedol a’r pentrefi, yn ogystal â’r clinig iechyd rhanbarthol. Fy mreuddwyd yw y bydd merched ifanc yn y cymunedau gwledig yn mynd ati i gefnogi eu cymunedau drwy sefydlu busnesau bach gan gynnwys o bosibl fentrau cydweithredol ariannol ac adnoddau. Mae hyn yn golygu newid meddylfryd a bod menywod ifanc yn dod i ddeall arloesedd, entrepreneuriaeth a dyhead. Mae angen meddwl yn ofalus sut i fynd ati mewn modd organig a chefnogol.

Pa rôl mae eich Cymrodoriaeth Gwerth Cyhoeddus wedi'i chwarae i'ch helpu i adeiladu ar eich gwaith gyda Marigold Chain?

Mae'r Gymrodoriaeth Gwerth Cyhoeddus wedi bod yn gwbl anhygoel i mi. Rwyf i wedi hunan-ariannu fy ngwaith dyngarol yn Nepal ers 2015, ond ers COVID-19, roeddwn i'n methu ariannu teithiau a doeddwn i ddim wedi ymweld ers 2019. Gwnaeth y gymrodoriaeth hi'n bosibl i mi ddychwelyd i Nepal, asesu effaith COVID-19 ar y rhanbarth, a fy helpu i ddeall ffyrdd i barhau â chymorth adeiladol wrth symud ymlaen. Caniataodd ni i barhau i feithrin perthynas â’r pentrefwyr, sy’n hanfodol ar gyfer ymgysylltu parhaus.

Mae'n anrhydedd i fod yr aelod cyntaf o staff y gwasanaethau proffesiynol i dderbyn cymrodoriaeth sy'n cyfrannu at amrywiaeth cynigion gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth am Marigold Chain.