Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Athro Melanie Jones yn gofyn: 'Beth nesaf i Fforwm Cynhyrchiant Cymru?'

Melanie Jones

Yn ei rôl newydd yn arwain Fforwm Cynhyrchiant Cymru, mae'r Athro Melanie Jones yn myfyrio ar syniadau allweddol a'r llwybr ymlaen ar gyfer gwella twf cynhyrchiant yng Nghymru...

Yn ddiweddar, fe ddes i’n arweinydd Fforwm Cynhyrchiant Cymru, sy’n dod ag arweinwyr busnes, llunwyr polisïau ac arbenigwyr academaidd ynghyd i ddeall a gwella twf cynhyrchiant yng Nghymru, ac mae fy mhenodiad wedi peri i mi feddwl. Beth ydyn ni wedi'i ddysgu hyd yn hyn a beth ddylai ffocws ein gwaith fod yn y dyfodol?

Mae tair blynedd a hanner cyntaf y fforwm wedi dangos pa mor bwysig yw twf cynhyrchiant yng Nghymru. Fel y mae fy rhagflaenydd, yr Athro Andy Henley, yn esbonio yn ein papur cipolygon cychwynnol, mae Cymru wedi profi cynhyrchiant sy’n is na gweddill y DU yn gyson ac mae twf ei chynhyrchiant wedi arafu ers yr argyfwng ariannol, sy’n debyg i weddill y DU. Mae sawl ffactor rhyng-gysylltiedig sy’n ynghlwm â hyn, gan gynnwys lefelau isel o fuddsoddiad mewn busnesau, lefelau cyfartalog cyrhaeddiad addysgol sy’n is na chyfartaledd y DU a diffyg cydgrynhoi gofodol; hynny yw, nid yw Cymru yn elwa o gydgrynhoi gweithgarwch economaidd.

Mae’n amlwg nad oes ateb syml na hawdd, ac y bydd angen gweithredu parhaus, cyd-gysylltiedig a chyfunol sy’n cynnwys llunwyr polisi ac arweinwyr busnes, yn ogystal â gweithwyr eu hunain, i dyfu cynhyrchiant yng Nghymru. Ni ddylen ni ychwaith dwyllo ein hunain - bydd newid sylweddol yn cymryd amser a buddsoddiad yn yr hirdymor. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rheswm i ganolbwyntio ar rywbeth arall, gan fod y manteision sy’n ynghlwm â thwf cynhyrchiant yn sylweddol.

Yn syml iawn, mae tyfu cynhyrchiant yn ein galluogi i gynhyrchu a defnyddio mwy o nwyddau a gwasanaethau gan ddefnyddio’r un adnoddau. Dyma sut i dyfu cyflogau go iawn a dyma'r unig ffordd gynaliadwy o wella ein safon byw.

Felly, mae’r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio o’r newydd ar wella cynhyrchiant yng Nghymru yn galonogol ac yn amserol iawn. Blaenoriaeth allweddol i'r fforwm yw llywio'r ddadl drwy droi'r dystiolaeth bresennol yn gipolygon ymarferol at ddibenion polisi a byd busnes. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni wella dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn gynhyrchiol a nodi'r camau y mae angen i ni eu cymryd i gyflawni hyn.

Dywedodd Robert Lloyd Griffiths OBE, Cyfarwyddwr Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) yng Nghymru a Chadeirydd Fforwm Cymru: “Byddwn ni’n defnyddio ein harbenigedd cyfunol mewn ymchwil cynhyrchiant ac arfer busnes i lunio argymhellion, gan gynnwys dysgu o enghreifftiau llwyddiannus o wledydd, rhanbarthau a chwmnïau”.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Fforwm Cynhyrchiant Cymru, sy’n rhan o’r Sefydliad Cynhyrchiant.