Ewch i’r prif gynnwys

Amlinelliad o gynhyrchiant busnesau bach yng Nghymru

Cogs showing differing aspects that make up a successful organisation, suggesting productivity..

Rhannodd yr Athro Max Munday, academydd o Ysgol Busnes Caerdydd ac aelod o Fforwm Cynhyrchiant Cymru, ei farn ar gynhyrchiant a'i effaith ar Gymru.

Mae gan Max dros 30 mlynedd o brofiad ac mae’n arwain Uned Ymchwil Economi Cymru.

Yn yr uned hon, mae ei waith yn canolbwyntio ar bolisi rhanbarthol, buddsoddiad uniongyrchol o dramor, twf economaidd, a chynhyrchiant. Yn ddiweddar bu'n myfyrio ar ei ymchwil, ei bartneriaeth â TPI (The Productivity Institute), a’r prif negeseuon o ddigwyddiad diweddar a ganolbwyntiodd ar gynhyrchiant.

Gyrfa’n Seiliedig ar Ymchwil

Mae Max wedi archwilio heriau cynhyrchiant ers cryn amser, yn enwedig y bwlch parhaus rhwng Cymru a rhanbarthau eraill y DU. Mae ei ymchwil yn edrych ar ddeinameg cynhyrchiant, effeithiau buddsoddiad tramor ar gynhyrchiant, a ffyrdd amgen o fesur cynnydd economaidd.

"Mae twf cynhyrchiant yn hanfodol am sawl rheswm," nododd, gan ei gysylltu â chyflogau, lles ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Ar hyn o bryd, mae Max yn gweithio ar brosiectau newydd, fel datblygu cardiau sgorio i asesu gwahaniaethau o ran cynhyrchiant ac arloesedd ar draws awdurdodau lleol Cymru. Mae'r ymdrechion hyn yn cynnig dealltwriaeth sy'n ceisio cynorthwyo’r gwaith o lunio polisïau ar sail tystiolaeth a mynd i'r afael ag anghyfartaledd economaidd rhanbarthol.

Cydweithio â TPI

Mae gwaith Max gyda TPI wedi ei alluogi i gyfrannu at drafodaethau a mentrau ymchwil sy'n canolbwyntio ar gynhyrchiant. Un maes sydd o ddiddordeb yw'r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru, sydd wedi dangos twf amlwg. "Gall deall pam mae cynhyrchiant yn ffynnu mewn rhai sectorau ein helpu i efelychu'r llwyddiant hwnnw", esboniodd Max. Mae ei waith yn amlygu pwysigrwydd buddsoddiad tramor hefyd, gan ei gysylltu â gwelliannau o ran cynhyrchiant, sy’n ffocws allweddol yn agenda TPI.

Negeseuon allweddol o ddigwyddiad diweddar

Yn ystod digwyddiad diweddar a drefnwyd gan Fanc Datblygu Cymru, Dirnad Economi Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, rhannodd Max ei ddealltwriaeth o fwlch cynhyrchiant Cymru. Nod y digwyddiad oedd egluro cynhyrchiant drwy edrych ar yr achosion a'r atebion posibl i'r bwlch parhaus rhwng Cymru a'r DU.

Wrth fyfyrio ar y drafodaeth, pwysleisiodd Max pa mor bwysig deall sut mae strwythurau diwydiant a'u hesblygiad yn llywio cynhyrchiant. Nododd hefyd werth astudiaethau achos, fel yr un a gyflwynwyd gan The Danish Bakery. Roedd yr enghraifft hon yn dangos sut y gall sgiliau traddodiadol a marchnadoedd arbenigol yrru llwyddiant busnes, gan gyfuno treftadaeth â thwf economaidd modern. Roedd yr enghraifft hon yn dangos sut y gall sgiliau traddodiadol a marchnadoedd arbenigol sbarduno llwyddiant busnes, gan gyfuno treftadaeth â thwf economaidd modern.

Pam mae Cynhyrchiant yn Bwysig i Fywyd Bob Dydd

Atebodd Max gwestiwn hollbwysig: pam y dylai pobl gyffredin boeni am gynhyrchiant? Eglurodd fod twf cynhyrchiant yn dylanwadu ar gyflogau, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith. "Mae'r arian sy’n cael ei wario ar wasanaethau fel y GIG yn dibynnu'n helaeth ar refeniw trethi, sy'n gysylltiedig â llwyddiant busnesau cynhyrchiol," meddai. Oni bai bod cynhyrchiant yn gwella, gallai gwasanaethau cyhoeddus a lles cyffredinol ddirywio dros amser.

Y Camau Nesaf ar gyfer Deall Cynhyrchiant yng Nghymru

I'r rhai sydd â diddordeb mewn astudio'r pwnc hwn ymhellach, mae Max yn argymell erthygl gan Andy Henley (cyn-arweinydd academaidd Fforwm Cynhyrchiant Cymru) yn yr Welsh Economic Review. Mae'r erthygl yn ymchwilio i dirwedd cynhyrchiant Cymru, gan drafod bylchau o ran sgiliau, blaenoriaethau polisi, a ffactorau pwysig eraill. Mae'n cynnig cyflwyniad hygyrch i'r materion cymhleth sy'n gysylltiedig â chynhyrchiant.

Mae dealltwriaeth Max yn taflu goleuni ar yr heriau parhaus o ran cynhyrchiant yng Nghymru wrth dynnu sylw at atebion y gellir eu rhoi ar waith. Mae ei waith yn amlygu pam mae angen ymchwil ar y cyd a pholisïau gwybodus i yrru cynnydd economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth.

Picture of Maxim Munday

Yr Athro Maxim Munday

Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru

Telephone
+44 29208 75089
Email
MundayMC@caerdydd.ac.uk