Mae cynhyrchiant yn allweddol i wella llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru

Nid ystadegyn economaidd digalon yn unig yw perfformiad cyson wael Cymru o ran cynhyrchiant – mae’n effeithio ar fywydau pawb.
Mae tueddiad i feddwl am gynhyrchiant fel mesur economaidd haniaethol heb fawr o berthnasedd i fywydau pob dydd pobl.
Ac eto, dylai cynhyrchiant, gan ei fod yn sbardun allweddol i safonau byw, fod o bwys i bawb yng Nghymru. Mae Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn esbonio pam...
- i weithwyr
- mae twf cynhyrchiant yn golygu cyflog uwch a llai o angen am weithio oriau hwy.
- i fusnesau
- mae cynyddu cynhyrchiant yn fodd i wobrwyo gweithwyr presennol, gostwng pris nwyddau a gwasanaethau, buddsoddi yn y dyfodol a chreu swyddi newydd.
- i wasanaethau cyhoeddus
- mae cynyddu cynhyrchiant yn golygu gwell darpariaeth a llai o restrau aros a gorlenwi.
- i lywodraethau
- mae cynhyrchiant uwch yn darparu’r adnoddau ychwanegol i wella gwasanaethau cyhoeddus a chyflawni nodau cymdeithasol, fel diogelu’r amgylchedd a lleihau anghydraddoldeb.
- i ardaloedd lleol
- mae twf cynhyrchiant yn cynnig mecanwaith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol.
- i Gymru
- mae enillion cynhyrchiant cenedlaethol yn golygu defnydd mwy effeithiol o adnoddau, mwy o ffyniant a gwell ansawdd bywyd.
“Rydyn ni’n gwybod bod materion fel cyflogau go iawn sy’n ddisymud, rhestrau aros yn y GIG a safonau byw is ar flaen meddyliau pobol Cymru. Yr hyn sy’n cael ei ddeall yn llai yw bod twf cynhyrchiant, drwy wneud defnydd mwy effeithiol o’n hadnoddau, yn ganolog i fynd i’r afael â’r heriau hyn.”
Mae angen sylw brys a chyfunol felly i’r diffyg mawr a pharhaus ynghylch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU. Yn wir, mae twf cynhyrchiant yn allweddol i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.
Mae llunwyr penderfyniadau yng Nghymru eisoes yn cael eu hannog i ystyried effaith hirdymor eu dewisiadau, ond mae angen i gynhyrchiant fod wrth wraidd hyn. Wrth godi cynhyrchiant, gallwn ni wella ansawdd swyddi a gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflawni ein nodau cymdeithasol ac amgylcheddol.
“Mae angen i ni gefnogi ac annog busnesau bach a mawr i ddeall a mesur cynhyrchiant yn well yn eu sefydliad, fel ei bod yn dod yn bosibl olrhain a thargedu twf cynhyrchiant.”
Sut gallwn ni gyflawni hyn?
Mae Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn cyflwyno pum argymhelliad trosfwaol i wella twf cynhyrchiant yng Nghymru. Rydyn ni’n dadlau bod gwella cynhyrchiant yng Nghymru yn galw am y canlynol:
- gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn gynhyrchiol ar lefel unigol, sefydliadol a chenedlaethol.
- ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i strategaeth sefydlog a hirdymor i gefnogi twf cynhyrchiant cynaliadwy.
- mwy o gydnabyddiaeth o bwysigrwydd twf cynhyrchiant o fewn y sector cyhoeddus.
- rhannu cyfrifoldeb a chamau gweithredu cydgysylltiedig, gyda busnesau, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polisïau lleol a chenedlaethol yn mesur a thargedu cynhyrchiant.
- craffu, cyngor a gwerthuso parhaus ac annibynnol ar gynnydd.
“Mae’r GIG yn wynebu her hirdymor wrth i’n poblogaeth heneiddio. Ni fydd ariannu’r galwadau cynyddol ar ein system yn ymarferol i’r trethdalwr; ac ni fydd y gweithlu sydd ei angen arnom ar gael. Bydd cyflawni gwelliannau cynhyrchiant yn hanfodol i fynd i’r afael yn rhannol â’r her hon.”
Rhagor o wybodaeth am Her Cynhyrchiant Cymru.