Mae talu'r Cyflog Byw yn dda i fusnes
Ugain Mlynedd o'r Cyflog Byw
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan academyddion Ysgol Busnes Caerdydd wedi amlygu’r manteision busnes niferus o dalu’r Cyflog Byw i weithwyr.
I nodi 20 mlynedd o achrediad Cyflogwr Cyflog Byw, ymunodd Ysgol Busnes Caerdydd â'r Living Wage Foundation i arolygu eu rhwydwaith Cyflogwyr Cyflog Byw achrededig.
Mae’r adroddiad yn dangos bod 94% o Gyflogwyr Cyflog Byw wedi elwa o gael achrediad Cyflog Byw, gyda manteision o ran enw da a recriwtio.
Mae’r ymchwil a gynhaliwyd gan Dr David Nash, Dr Deborah Hann, a’r Athro Edmund Heery wedi llywio strategaethau ac ymgyrchoedd y Living Wage Foundation (LWF), a ffurfiwyd i hyrwyddo’r safon ac achredu cyflogwyr.
Y Cyflog Byw
Y Cyflog Byw gwirioneddol yw’r unig gyfradd cyflog yn y DU sy’n seiliedig ar gostau byw. Mae’n cael ei dalu’n wirfoddol gan dros 14,000 o fusnesau yn y DU ac mae dros 400,000 o weithwyr wedi cael codiad cyflog o ganlyniad i’r ymgyrch Cyflog Byw.
Mae safonau gwirfoddol, fel y Cyflog Byw, yn nodwedd bwysig o’r farchnad lafur heddiw ac mae’r adroddiad yn cynnig cipolwg ar sut maent yn gweithredu’n ymarferol.
Yr astudiaeth: Ugain Mlynedd o'r Cyflog Byw - Profiad y Cyflogwr
Cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd yr astudiaeth yn 2021 a chafwyd 1532 o ymatebion.
Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi i gyflwyno adroddiad eang ar sut mae eu haelodaeth o’r rhwydwaith Cyflog Byw wedi effeithio ar Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.
Dyma grynodeb o’r prif ganfyddiadau
Rhesymau dros ymuno â'r rhwydwaith
I’r rhan fwyaf o gyflogwyr, roedd y penderfyniad i ymuno â’r rhwydwaith Cyflog Byw yn un cymhleth, wedi’i lywio gan lawer o ystyriaethau. Ar flaen y gad, fodd bynnag, mae’r hyn a alwn yn gymhellion ‘Mynegiannol’ fel yr awydd i fod yn gyflogwr da, cefnogi’r ymgyrch Cyflog Byw, a gweithredu yn unol â chenhadaeth a gwerthoedd sefydliadol. Cyfeiriodd llawer o gyflogwyr at fwriad i 'wneud y peth iawn'. Roedd cymhelliad cyfrannol hefyd yn bwysig, gyda llawer o gyflogwyr yn ymuno â’r cynllun i wella agweddau ar Reoli Adnoddau Dynol, fel recriwtio a chadw, neu sicrhau contractau neu fuddsoddiad.
Gweithredu’r Cyflog Byw
Roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr a weithredai’r Cyflog Byw wedi briffio eu rheolwyr a’u gweithlu am y safon ymlaen llaw ac wedi codi’r gyfradd gyflog sylfaenol, yn hytrach na chyflwyno’r Cyflog Byw fel tâl atodol. Ychydig iawn a ddywedodd eu bod wedi dileu elfennau eraill o dâl i ariannu’r cynllun neu eu bod wedi lleihau oriau gwaith neu faint y gweithlu. Ni ddatgelodd yr arolwg fawr ddim tystiolaeth o gyflogwyr yn tynnu telerau ac amodau eraill yn ôl i dalu cyfradd sylfaenol uwch.
Effaith ar gyflogwyr
Dywedodd bron pob un o’r cyflogwyr a ymatebodd i’r arolwg fod ymuno â’r Cyflog Byw wedi cael effaith gadarnhaol ar eu sefydliadau. Y prif fathau o fuddion a nodwyd oedd gwelliant mewn enw da, gyda buddion AD yn ail ac enillion masnachol, fel ennill contractau a denu cwsmeriaid, yn drydydd. Er bod y rhan fwyaf o gyflogwyr wedi nodi effeithiau cadarnhaol i’r achrediad, gan gefnogi’r 'achos busnes' dros safonau llafur da, mae'n bwysig gallu nodi cymhwyster. Roedd graddfa’r effeithiau yr adroddwyd arnynt yn sgil cyflwyno’r Cyflog Byw yn gymedrol ar y cyfan i’r sefydliadau cyflogi, gan gynrychioli newid graddol yn hytrach na thrawsnewidiol.
Nifer y gweithwyr sy'n elwa o'r Cyflog Byw.
Ers ei sefydlu, mae cynllun achredu’r Cyflog Byw wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn tâl fesul awr i tua 400,000 o weithwyr yn y DU. Amcangyfrif gofalus Ysgol Busnes Caerdydd o gyfanswm y trosglwyddiadau cyflog ers 2011 yw tua £3bn. Mae dadansoddiad o'r data yn datgelu bod yr effaith wedi'i chrynhoi mewn sefydliadau mawr, mewn diwydiannau cyflog isel, fel manwerthu a gofal cymdeithasol, ac mewn cyflogwyr yn Llundain a'r Alban, lle mae'r niferoedd mwyaf wedi elwa o’r Cyflog Byw. Mae’r Cyflog Byw wedi cael effaith benodol ar y sector cyhoeddus, gydag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn tueddu i adrodd am nifer fawr o fuddiolwyr.
Mathau o weithwyr sy'n elwa o'r Cyflog Byw
Mae'r rhai sy'n derbyn codiad cyflog drwy’r Cyflog Byw yn anghymesur yn gweithio'n rhan-amser. Mae gwaith rhan-amser yn aml yn talu'n wael, yn cael ei danbrisio ac yn cael ei wneud yn bennaf gan fenywod. Mae'r cynllun hefyd wedi codi tâl miloedd o weithwyr contract. Roedd yr arolwg hefyd yn dangos mai gweithwyr benywaidd yw’r mwyafrif sy'n elwa o'r cynllun, ymhlith gweithwyr uniongyrchol, yn y mwyafrif o'r sefydliadau sy'n cymryd rhan. Anaml iawn y mae gweithwyr ifanc a gweithwyr du a lleiafrifol ethnig yn cynrychioli mwyafrif ymhlith gweithwyr sy’n elwa, ond dywed eu bod wedi elwa’n uniongyrchol o’r Cyflog Byw gan leiafrif sylweddol o gyflogwyr. Mae set eang iawn o alwedigaethau cyflog isel wedi elwa o’r Cyflog Byw. Y rhai a nodir amlaf yw cynorthwy-ydd clercaidd neu weinyddol, glanhawr, derbynnydd, gweithiwr warws, a gweithiwr gofal.
Cefnogaeth barhaus a safonau ychwanegol
Dywedodd bron pob un o’r cyflogwyr a ymatebodd i’r arolwg (99%) eu bod yn ‘debygol’ neu’n ‘debygol iawn’ o barhau â’u cefnogaeth i’r Cyflog Byw. Ers i'r arolwg gael ei gynnal mae'r Living Wage Foundation wedi lansio safonau ychwanegol ar ffurf y cynlluniau Oriau Byw a Phensiwn Byw. Datgelodd ymatebion i’r arolwg gefnogaeth gref i’r safonau newydd hyn gyda mwy na hanner y cyflogwyr yn dweud y byddent yn ‘bendant’ neu’n ‘debygol’ o fabwysiadu’r achrediad Oriau Byw. Dywedodd bron i 80% o’r ymatebwyr i’r arolwg y byddent yn ystyried ymuno â safon pensiwn gwirfoddol ar gyfer gweithwyr cyflog isel.
Effaith COVID-19
Dywedodd y rhan fwyaf o gyflogwyr fod COVID-19 wedi effeithio’n negyddol ar eu sefydliadau. Er gwaethaf yr effeithiau andwyol hyn, gwadodd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr i’r arolwg fod COVID wedi gwanhau eu cefnogaeth i’r Cyflog Byw, a dywedodd llawer eu bod wedi cymryd camau ychwanegol i amddiffyn incymau gweithwyr cyflog isel. Roedd cefnogaeth gref iawn hefyd ymhlith cyflogwyr i bolisi i godi incwm 'gweithwyr allweddol', a oedd wedi parhau i weithio a chefnogi'r cyhoedd yn ystod y pandemig.
Ymchwil gysylltiedig
Adnoddau
Ugain Mlynedd o'r Cyflog Byw - Profiad y Cyflogwr
I nodi 20 mlynedd o achrediad Cyflogwr Cyflog Byw, ymunodd Ysgol Busnes Caerdydd â'r Living Wage Foundation i arolygu eu rhwydwaith Cyflogwyr Cyflog Byw achrededig.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Y Cyflog Byw mewn Addysg Uwch
Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio bod nifer gymharol uchel o sefydliadau yn sector addysg uwch y DU wedi mabwysiadu’r cyflog byw wirioneddol neu wirfoddol. Mae hefyd yn cyflwyno’r dystiolaeth o effaith ailddosbarthol hyn.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.