Ewch i’r prif gynnwys

Fy mhrofiad ôl-raddedig i yn Ysgol Busnes Caerdydd — cwrdd â Haleema

Haleema

Mae Haleema Sadia, myfyrwraig ryngwladol o Bacistan, yn rhannu ei phrofiad o fod yn astudio Marchnata Strategol (MSc) yn Ysgol Busnes Caerdydd...

Sut mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi fy nghefnogi

Cefais gefnogaeth werthfawr ac ymroddedig gan Ysgol Busnes Caerdydd, megis trwy weithdai ymarferol, cipolwg ar ddiwydiant, a meithrin awyrgylch sy’n arwain at ddatblygiad personol a phroffesiynol. Mae ymgymryd â mentora gyrfaol a chyfleoedd i gael profiad gwaith wedi rhoi’r cyfle i mi roi’r theori rydw i wedi dysgu ar waith yn y byd ymarferol.

Byw yng Nghaerdydd

Roedd byw yng Nghaerdydd yn brofiad pleserus iawn, mae’n ymarferol i gerdded ac yn ystyriol o fyfyrwyr, gyda diwylliant bywiog a chroesawgar. Rydw i wedi mwynhau crwydro o amgylch cymdogaethau amrywiol y ddinas. Mae golygfeydd a harddwch y ddinas wedi bod yn brofiad bythgofiadwy.

Pam gwnes i ddewis Prifysgol Caerdydd ar gyfer fy ngradd

Yr hyn a dynnodd fy sylw at Brifysgol Caerdydd oedd y rhaglen enwog Marchnata Strategol (MSc). Adnabyddus am ei dull ymarferol a’i pherthnasedd i’r diwydiant gan gynnig y cyfuniad delfrydol o drylwyredd academaidd a chymhwysiad i’r byd go iawn.

Yr hyn rydw i wedi'i fwynhau fwyaf am fy ngradd hyd yn hyn

Rydw i wedi mwynhau'r profiad o ddysgu wrth ymarfer, yn enwedig y cyfleoedd i weithio ar y cyd gyda busnesau lleol yn rhoi’r wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn sefyllfaoedd heriol marchnata'r byd go iawn, ac i gael y cyfle i brofi canlyniadau sylweddol.

Sgiliau a ddatblygwyd a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol

Mae’r sgiliau rydw i wedi datblygu, megis meddwl yn strategol, dadansoddi’r farchnad, ymchwil marchnata, gweithio mewn tîm a chyfathrebu yn effeithiol, ymhlith eraill, wedi fy ngrymuso i ddod o hyd i’r ffordd ym maes cymhleth marchnata, gan ysgogi arloesedd a chyflawni canlyniadau sydd o fewn cyrraedd yn y dyfodol.

Pam byddwn yn argymell Marchnata Strategol (MSc)

Byddwn i’n argymell y rhaglen MSc Marchnata Strategol yn gryf, am ei chyfuniad delfrydol o ragoriaeth academaidd, elfennau ymarferol, ac awyrgylch dysgu cefnogol, sy’n sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo ym maes blaengar marchnata.

I grynhoi fy mhrofiad yng Nghaerdydd

Mae fy mhrofiad yng Nghaerdydd wedi cael effaith hirdymor arna i, gan sicrhau bod gen i’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i ddilyn y trywydd o farchnata gyda brwdfrydedd, phwrpas ac effaith.

Rhagor o wybodaeth

Students talking in break room

Busnes, rheoli a chyllid

Cyfle i gael addysg a allai newid eich gyrfa gan arbenigwyr academaidd ac ymarfer blaenllaw a fydd yn eich herio i ystyried y byd busnes o safbwyntiau amgen.