A oes premiwm enillion sector cyhoeddus ym maes gofal iechyd y DU?
Mae cyflogau sector cyhoeddus y DU, yn enwedig yn y GIG, wedi colli gwerth dros amser, gan ysgogi pryderon ynghylch tegwch ac arwain at weithredu diwydiannol. Mae'r llywodraeth bellach yn wynebu her wrth gydbwyso cyllid a chadw gweithwyr gofal iechyd yn hapus.
Dr Ezgi Kaya a’r Athro Melanie Jones sy'n edrych ar wahaniaethau cyflog ac yn ystyried buddion eraill, megis pensiynau, i daflu goleuni ar sut mae cyflogau’r sector cyhoeddus yn cymharu â’r sector preifat a beth mae hyn yn ei olygu i benderfyniadau cyflog wrth symud ymlaen…
Rhwng 2011 a 2017, yn ystod y cyfnod o lymder, profodd gweithwyr sector cyhoeddus y DU erydiad cyflog gwirioneddol. Ar ôl pandemig COVID-19, gwaethygodd y sefyllfa wrth i godiadau cyflog barhau i lusgo y tu ôl i chwyddiant. Mae hyn wedi codi pryderon difrifol am safonau byw gweithwyr y sector cyhoeddus. Mae’r gweithredu diwydiannol dilynol gan nyrsys, meddygon, a gweithwyr eraill y GIG wedi dwysáu’r drafodaeth gyhoeddus a'r drafodaeth polisi am gyflogau’r sector cyhoeddus. Ac eto, mae'n dasg anodd i'r llywodraeth gydbwyso cyllid cyhoeddus a pharhau hefyd i recriwtio a chadw staff yn y GIG.
Un ffon fesur o briodoldeb cyflog y sector cyhoeddus yw ei gymharu â’r sector preifat a bu pryder ers tro bod gweithwyr y sector cyhoeddus, ar gyfartaledd, yn cael mwy o dâl. Fodd bynnag, mae cyfansoddiad y gweithlu ym mhob sector yn bwysig. Mae dwyster y galwedigaethau proffesiynol yn y sector cyhoeddus yn cynyddu cyflog cyfartalog ac, ar ôl addasu ar gyfer y cyfansoddiad, mae llawer mwy o drafod a oes premiwm cyflog yn y sector cyhoeddus.
Mewn astudiaeth ddiweddar, rydym yn cyfrannu at y drafodaeth drwy ddarparu'r amcangyfrifon cyntaf ar gyfer galwedigaethau gofal iechyd penodol, gan gynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal. Rydym yn dadlau bod yr amcangyfrifon hyn, sy'n gwneud cymariaethau o fewn galwedigaethau, ymhlith gweithwyr â sgiliau ac addysg debyg sydd wedi dewis yr un proffesiwn, yn darparu mesurau mwy cywir o wahaniaethau sectoraidd na'r cyfartaledd cenedlaethol. At hynny, yn hytrach nag edrych ar gyflog yn unig, rydym yn dadansoddi cydnabyddiaeth sy'n golygu ein bod yn cynnwys gwerth cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, sy'n aml yn cael eu hanwybyddu ond sydd fel arfer yn fwy hael yn y sector cyhoeddus.
Hyd yn oed ar ôl rhoi cyfrif am wahaniaethau yng nghyfansoddiad y gweithlu, canfyddir amrywiad sylweddol o amgylch premiwm cydnabyddiaeth fesul awr y sector cyhoeddus cenedlaethol o 4 y cant o fewn y pum galwedigaeth gofal iechyd a astudiwyd. Mae premiwm y sector cyhoeddus ar ei fwyaf ymhlith gweithwyr gofal (34 y cant), ac yna nyrsys cynorthwyol (25 y cant) a meddygon (15 y cant). Mae hyn yn llawer mwy na nyrsys (5 y cant) neu ysgrifenyddion meddygol (lle nad oes premiwm). Er y gallai’r bylchau hyn adlewyrchu gwahaniaethau sectoraidd o ran gofynion manwl y swyddi, mae’n amlwg eu bod yn cyfiawnhau craffu ac ystyriaeth ychwanegol wrth i'r llywodraeth bennu cyflogau, gan gynnwys gan y Cyrff Adolygu Cyflogau annibynnol sy’n gwneud argymhellion cyflog blynyddol ar gyfer y mwyafrif o weithwyr gofal iechyd yn y sector cyhoeddus.
Cyhoeddiadau
- Jones, M. and Kaya, E. 2024. Is there a public sector earnings premium in UK healthcare?. Fiscal Studies: The Journal of Applied Public Economics (10.1111/1475-5890.12380)
Pobl
Cydnabyddiaeth: Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar ddata o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ac a ddarperir gan Archif Data’r DU. Gellir cael mynediad ato trwy’r Gwasanaeth Data Diogel (SDS) ac rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth. Mae'r data hyn yn Hawlfraint y Goron ac wedi'u defnyddio gyda chaniatâd. Nid yw'r defnydd o'r data hyn yn y gwaith hwn yn awgrymu bod yr ONS na'r SDS wedi'u cymeradwyo mewn perthynas â dehongli neu ddadansoddi'r data. Mae'r gwaith yn defnyddio setiau data ymchwil nad ydynt o bosibl yn atgynhyrchu cyfansymiau Ystadegau Gwladol yn union. Ar adeg ysgrifennu hwn, mae Melanie Jones yn aelod o'r Corff Adolygu Cydnabyddiaeth Ariannol i Feddygon a Deintyddion (DDRB) sy'n cynghori'r llywodraeth ar gyflogau meddygon a deintyddion. Fodd bynnag, mae'r erthygl gyfredol wedi'i hysgrifennu mewn rhinwedd bersonol ac ni ddylid tybio ei bod yn cynrychioli safbwyntiau'r DDRB.