Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024, rydyn ni’n falch o roi sylw i waith ymchwil gwerth cyhoeddus menywod yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae eu gwaith nhw yn newid ein dealltwriaeth o feysydd fel hawliau pobl anabl, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, cyfrifyddu a chyllid cynaliadwy, treuliant a dylanwadwyr, a chaffael cynaliadwy.
#Ysbrydolicynhwysiant #InspireInclusion
Meddai’r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni – Ysbrydoli Cynhwysiant – yn ein hysgogi i ddychmygu byd o gydraddoleb rhwng y rhywiau sy’n rhydd o ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu; byd sy’n amrywiol, yn deg ac yn gynhwysol. Fodd bynnag, mae’r dadansoddiad pum mlynedd sy’n cael ei grynhoi gan Chwarae Teg yn eu Hadroddiad Cyflwr y Genedl diweddaraf yn dangos i ni fod llawer o waith i’w wneud o hyd i gyflawni’r amcanion hyn.
Er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da, mae menywod yn parhau i ennill llai na dynion, yn llai tebygol o fod mewn gwaith, ac yn fwy tebygol o fod allan o’r farchnad lafur oherwydd cyfrifoldebau gofalu. Ar ôl ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu sylweddol yn ystod y pandemig, mae menywod nawr yn teimlo effaith yr argyfwng costau byw yn ddifrifol, yn enwedig menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl, a menywod ar incwm isel.
Mae staff a myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb fel rhan o’i diben Gwerth Cyhoeddus sy’n golygu gweithio’n fewnol ac yn allanol i ddatblygu economïau, cymdeithasau, a chymunedau sy’n gynhwysol, yn deg ac yn gynaliadwy.”
Dyma enghreifftiau o’r ymchwil gwerth cyhoeddus a gynhaliwyd gan fenywod yn Ysgol Busnes Caerdydd:
Hawliau Pobl Anabl
Mae'r Athro Debbie Foster yn ymchwilio i brofiadau go iawn pobl anabl yn y farchnad lafur.
Yn 2023 cafodd ei henwi’n un o’r ‘100 o Wneuthurwyr Newid’ gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a chafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn un o’r 100 Pŵer Anabledd, sef y 100 o bobl anabl mwyaf dylanwadol yn y DU.
Mae hi’n cael cydnabyddiaeth am ei gwaith fel Cyd-Gadeirydd Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru a gafodd ei sefydlu yn dilyn yr adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’ a gafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan yr Athro Foster. Canlyniad y Tasglu yw Cynllun Gweithredu 10 mlynedd i Gymru ar gyfer Hawliau Pobl Anabl, a fydd yn cael ei gynhyrchu ar y cyd gan bobl anabl a Llywodraeth Cymru.
Yr Athro Debbie Foster
Professor of Employment Relations and Diversity
Y Bwlch Cyflog Rhwng Y Rhywiau
Mae Suzanna Nesom, myfyrwraig doethuriaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn ficroeconomegydd cymhwysol sydd â diddordeb mewn anghydraddoldeb ar draws ardaloedd ac o ran rhywedd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wahaniaethau rhanbarthol yn y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ym Mhrydain.
Cyn hynny bu'n gweithio ar Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd Llywodraeth Cymru gyda Chwarae Teg.
Darllenwch flog diweddar Suzanna 'Pum ffordd o ddeall pam mae'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau’n amrywio ar draws ardaloedd o fewn Prydain'.
Cyfrifeg a chyllid cynaliadwy
Prif faes ymchwil yr Athro Jill Atkins yw rôl buddsoddwyr sefydliadol yn gwella arferion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) mewn cwmnïau maen nhw’n prynu cyfranddaliadau ynddynt ac sy’n rhan o’u portffolios.
Mae hi hefyd yn ymchwilio i gyfrifeg a chyllid ar gyfer diogelu bioamrywiaeth ac adfer natur. Fel rhan o hyn, datblygodd y cysyniad o 'gyfrifo difodiant' sy'n darparu fframwaith i sefydliadau adrodd ar sut maen nhw’n diogelu bioamrywiaeth ac yn atal rhywogaethau rhag difodiant yn eu gweithgareddau busnes.
Cymerwch gipolwg fanwl ar flog diweddar yr Athro Atkins, lle mae’n dadansoddi ei maes ymchwil gwerth cyhoeddus.
Treuliant a dylanwadwyr
Mae Dr Rebecca Mardon yn edrych ar dreuliant drwy lens gymdeithasol-ddiwylliannol, gan ganolbwyntio ar sut gall technolegau digidol drawsnewid arferion treuliant ac effeithio ar hunaniaeth, perthnasoedd a lles ehangach defnyddwyr.
Mae ei phrosiectau ymchwil cyfredol yn archwilio:
- Sut mae syniadau o berchnogaeth a rhannu yn cael eu dylanwadu gan dechnolegau digidol.
- Cysylltiadau datblygol dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol â'u dilynwyr.
- Digwydd a dyfalbarhad ymddygiadau gwrthdaro ymddangosiadol afresymol o fewn cydweithfeydd defnyddwyr ar-lein, ac o fewn marchnadoedd yn ehangach.
Ar y gyd gyda’r Athro Kate Daunt, mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer The Conversation am ei gwaith ymchwil ar ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol: 'Why you might start to hate the influencers you once loved' a 'How online beauty gurus get followers to trust them by posting negative reviews.'
Caffael gwerth cyhoeddus
Yr Athro Jane Lynch yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd ac mae hi’n arbenigo mewn caffael cyhoeddus, gwerth cymdeithasol, arloesi ym maes caffael, a chydweithio yn y gadwyn gyflenwi.
Yn ddiweddar enillodd Unigolyn y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfleoedd Llywodraeth (GO) Cymru 2023, sef y prif wobrau rhagoriaeth ym maes caffael cyhoeddus.
Cafodd yr Athro Lynch sylw ym mhennod 3 o bodlediad The Power of Public Value, yn trafod caffael cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwrandewch/gwyliwch y bennod:
Caffael cynaliadwy a chenedlaethau’r dyfodol
Ym mhennod 3, mae’r Athro Jane Lynch a Peter yn trafod ymgorffori cynaliadwyedd mewn arferion caffael er budd cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.
Maent yn archwilio rôl Jane fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae’r sgwrs hefyd yn cyffwrdd â phwysigrwydd cydweithio a pham y dylem herio o ble rydym yn prynu pethau.