Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod 2023
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023, rhown ein sylw ar ymchwil gwerth cyhoeddus menywod sydd newydd ymuno ag Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae eu gwaith yn gwneud cyfraniad sylweddol at lunio ein dealltwriaeth o fywydau gwaith, yr economi gylchol, adrodd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, economeg gyhoeddus, ac ymddygiad defnyddwyr.
#CofleidioCyfiawnder
Meddai'r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae thema Diwrnod Rhyngwladol Menywod eleni – Cofleidio Cyfiawnder – yn ein hannog i ddychmygu byd cyfartal yn rhydd o ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu; byd sy'n amrywiol, yn gyfiawn ac yn gynhwysol. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad pum-mlynedd a grynhowyd gan Chwarae Teg yn eu Hadroddiad Cyflwr Cenedl ddiweddaraf yn dangos i ni fod gennym ddigon o waith i'w wneud o hyd i gyflawni'r nodau hyn.
Er ein bod wedi gwneud cynnydd da, mae menywod yn parhau i ennill llai na dynion, yn llai tebygol o fod mewn gwaith, ac yn fwy tebygol o fod allan o'r farchnad lafur oherwydd cyfrifoldebau gofalu. Ac ar ôl ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu sylweddol yn ystod y pandemig, mae menywod bellach ar ben craff yr argyfwng costau byw, yn enwedig menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl, a menywod ar incwm isel.
Mae staff a myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb fel rhan o'n diben Gwerth Cyhoeddus sy'n golygu gweithio'n fewnol ac yn allanol i ddatblygu economïau, cymdeithasau, a chymunedau sy'n gynhwysol, yn deg, ac yn gynaliadwy."
Cwrdd â'n hacademyddion
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023, dewch i gwrdd â’n hacademyddion sydd a’u hymchwil gwerth cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth i'r byd o'u cwmpas:
Dr Toma Pustelnikovaite
Mae ymchwil Toma yn canolbwyntio ar waith a chyflogaeth ac mae ei phrif ddiddordeb ymchwil ar weithwyr mudol a'u profiadau a'u cynhwysiant yn y gwaith.
Dr Hui Situ
Prif ddiddordeb ymchwil Hui yw cyfrannu at wella tryloywder adroddiadau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR).
Dr Luisanna Onnis
Mae diddordebau ymchwil Luisanna yn cynnwys economeg gyhoeddus, mudo, a pholisi cyllidol empirig.
Dr Saloomeh Tabari
Mae diddordebau ymchwil Saloomeh yn cynnwys ymchwil defnyddwyr, cyfathrebu rhyngddiwylliannol, deallusrwydd diwylliannol, a marchnata trwy ddulliau ansoddol.