Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithio’n ymarferol gyda diwydiant: Wales Perfumery a myfyrwyr MSc Ysgol Busnes Caerdydd

Students in front of their presentation

Cipolwg ar farchnata yn y byd go iawn trwy ymgysylltu â diwydiant

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, mae cydweithio â diwydiant yn hollbwysig ar gyfer sicrhau profiad ymarferol i fyfyrwyr.

Drwy bartneriaeth ddiweddar gyda Wales Perfumery cafodd myfyrwyr meistr gyfle amhrisiadwy i ddefnyddio eu gwybodaeth academaidd mewn her fusnes go iawn, gan bontio’r bwlch rhwng theori ac ymarfer.

O ddarlith wadd i brosiect ymarferol

Dr Zoe Lee, Cyfarwyddwr Rhaglen Marchnata Strategol a Digidol (MSc) Ysgol Busnes Caerdydd sy'n esbonio sut y dechreuodd y cydweithio:

“Mae’r ddarlith wadd yn sesiwn dan arweiniad diwydiant, wedi’i chynllunio i ddangos heriau busnes go iawn i'r myfyrwyr. Eleni, roedden ni'n ffodus fod Wales Perfumery wedi dod atom i rannu golwg fanwl ar y ffordd y mae treftadaeth, crefftwaith ac arloesedd yn dod ynghyd yn y diwydiant persawr.

Helpodd y sesiwn ddifyr i gyfoethogi dealltwriaeth y myfyrwyr o feithrin brandiau cryf a hefyd ymdrin â heriau brandio. Esblygodd yr hyn a ddechreuodd fel darlith wadd yn brosiect gyda'r myfyrwyr yn datblygu strategaeth frand ddiwylliannol berthnasol i apelio at ddefnyddwyr Gen Z.

Roedd y prosiect yn annog datrys problemau mewn ffyrdd creadigol gan adlewyrchu cymhlethdodau'r amgylchedd busnes go iawn. Helpodd i ddatblygu myfyrwyr i fod yn rheolwyr brand gwell at y dyfodol.”

Safbwyntiau myfyrwyr: profiad dysgu ystyrlon

Pwysleisiodd Grace Dawson fanteision ymarferol y prosiect:

“Drwy weithio ar fusnes go iawn yn yr astudiaeth achos fe wellodd fy sgiliau meddwl strategol a gwneud penderfyniadau yn fawr. Roedd yn rhaid i ni sicrhau bod syniad yr ymgyrch yn cyd-fynd â hunaniaeth y brand gan gadw o fewn y gyllideb. Roedd hyn yn gwneud y profiad yn heriol ac yn werth chweil.

Hwn oedd un o’r profiadau mwyaf allweddol yn y cwrs meistr hyd yma a bydd yn fuddiol iawn i mi wrth greu a chyflawni ymgyrchoedd marchnata a brandio yn y dyfodol. Bydd hefyd yn bwnc gwych i’w drafod mewn cyfweliadau am swyddi yn y dyfodol!”

Kayleigh Enriquez
“Cefais i fy nenu at Wales Perfumery i ddechrau gan y stori y tu ôl i’r brand. Cefais fy nghymell i greu rhywbeth fyddai'n cyfoethogi eu cynnig. Roedden ni'n canolbwyntio ar ecwiti brand, lleoli, ac ymddygiad defnyddwyr ymhlith Gen Z.

Drwy weithio ar achos busnes go iawn fe wellodd fy nealltwriaeth o farchnata, gan amlygu realiti'r opsiynau cyllidebu amrywiol a dangos yr her wirioneddol ynghlwm â meithrin cynllun cymhleth a strategol ar gyfer y brand heb niweidio ei ecwiti a’i ddelwedd bresennol.”

Adleisiodd Joanne Shaddick yr un teimlad:
“Roedd cael sylfaenydd Wales Perfumery yn siarad am ei chwmni ac yn rhannu ei hangerdd yn ysbrydoliaeth. Roedd cael prosiect 'byw' i weithio arno'n golygu bod yn rhaid i ni sicrhau bod popeth roedden ni'n ei awgrymu yn ymarferol a bod modd ei weithredu'n realistig.

Roedd gwybod y gallai ein hargymhellion gael effaith wirioneddol yn ein hysgogi i sicrhau bod ein cyflwyniad yn raenus ac yn broffesiynol. Mae’r profiad wedi bod yn baratoad gwych ar gyfer gyrfa mewn marchnata yn y dyfodol.”

Student group in front of their presentation

Safbwynt y cyflogwr: manteision ymgysylltu â myfyrwyr

Mae gan Louise, sylfaenydd Wales Perfumery, gysylltiad cryf ag Ysgol Busnes Caerdydd, ar ôl cwblhau rhaglen Help i Dyfu: Rheoli yr ysgol cyn hyn.

Wrth sôn am y ddarlith wadd a’r prosiect myfyrwyr, dywedodd:

“Rydw i wir yn mwynhau ymgysylltu â myfyrwyr mewn lleoliad academaidd. Yn fy mywyd gwaith blaenorol ym maes fferylliaeth, byddwn i’n rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr prifysgol a dyma oedd rhan fwyaf boddhaus fy swydd bob amser. Creodd y cwrs Help i Dyfu a gwblheais fis Rhagfyr diwethaf y teimlad hwnnw o bartneriaeth a chydweithio i gyflawni mwy.

Mae’r myfyrwyr wedi dangos gwir ddiddordeb; roeddwn i'n gobeithio y gallai rhannu fy nhaith fel entrepreneur annog unrhyw un i gredu ynddyn nhw eu hunain ac i feddwl y tu allan i’r bocs. Roedd yn wych cael rhannu gwybodaeth am y diwydiant Persawr Arbenigol a’r tueddiadau sydd ar gynnydd yn y DU ac yn fyd-eang.

Roedd nifer o bethau cofiadwy'n codi drwy weithio gyda'r myfyrwyr; maen nhw'n gweld pethau o safbwynt gwahanol, wrth gwrs. Maen nhw'n gwybod am y tueddiadau marchnata a'r datblygiadau brand diweddaraf, ac roedden ni wrth ein bodd gyda'u hadborth a'u dealltwriaeth. Rydyn ni’n gweithio i roi rhai o’r syniadau hyn ar waith ac yn gobeithio ffurfio partneriaeth gyda myfyriwr ar leoliad.”

Grym cydweithio â diwydiant

Mae'r bartneriaeth hon yn dangos manteision ymgysylltu â diwydiant i'r ddwy ochr. Mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol, yn datblygu sgiliau datrys problemau, ac yn meithrin cysylltiadau â diwydiant, tra bod busnesau'n cael dirnadaeth arloesol a safbwyntiau newydd ar eu strategaeth brand.

Rhagor o wybodaeth am y

Marchnata Strategol a Digidol (MSc)

Datblygu a grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr marchnata yn y byd digidol.

Wales Perfumery

Mae Wales Perfumery yn cyfuno treftadaeth, crefftwaith ac arloesedd i greu persawrau pwrpasol sydd wedi’u hysbrydoli gan dirwedd Cymru. Sefydlwyd y cwmni gan Louise ar ôl gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant fferyllol, ac mae'n ymfalchïo eu bod yn cynhyrchu persawr o ansawdd uchel yng Nghymru.

Members of Cohort 9 on the Help to Grow: Management course

Helpu i Dyfu: Cwrs Rheoli

Cefnogi uwch reolwyr mewn busnesau bach a chanolig eu maint i hybu perfformiad, gwydnwch a thwf hirdymor eu busnes.