Ewch i’r prif gynnwys

Ailddiffinio ffasiwn: gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi

Mae ymchwil Dr Hakan Karaosman yn edrych ar ail-lunio’r diwydiant ffasiwn ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a theg.

Trwy archwilio gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi ffasiwn cymhleth, ei nod yw creu deialogau cymdeithasol cynhwysol i ysbrydoli a chatalyddu newid radical i systemau.

Cwrdd Dr Haakan Karaosman

Gwyliwch y fideo byr hwn i weld cyflwyniad i ymchwil Dr Karaosman ac i ddeall ei gymhellion i astudio'r pwnc hwn.

FReSCH (Fashion’s Responsible Supply Chain Hub)

Wrth durio’n ddyfnach i’r maes ymchwil hwn, mae Dr Karaosman yn dweud wrthym am FReSCH (Fashion’s Responsible Supply Chain Hub) ...

"Nid yn unig y mae'r diwydiant ffasiwn yn niweidio'r blaned, ond mae hefyd yn creu canlyniadau cymdeithasol a seicolegol enbyd i'r gweithwyr ar draws cadwyni cyflenwi tameidiog sydd wedi’u gwasgaru ar hyd a lled y byd. Er gwaethaf ymdrechion parhaus i sicrhau cynaliadwyedd, mae'r rhan helaeth o’r ymarfer a’r ymchwil yn canolbwyntio ar weithredoedd amgylcheddol cynyddol, ac mae materion cymdeithasol yn cael eu hanwybyddu i raddau helaeth. Mae'n bwysig cydnabod bod yna gyfaddawdau rhwng nodau gweithredol a chynaliadwyedd, a rhwng cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol.

Mae FReSCH yn brosiect ymchwil weithredu a ddyfarnwyd gan yr UE, a gydnabyddir gan y Cenhedloedd Unedig, ac a sefydlwyd ym mis Ionawr 2020, yr wyf yn ei gynnal mewn partneriaeth â’r Athro Donna Marshall o Goleg Prifysgol Dulyn. Rydym yn cyflwyno safbwynt integredig, rhyngddisgyblaethol, aml-gyfrannwr, a gwreiddiol ar bontio teg i’r broses o reoli'r gadwyn gyflenwi.

Rydym yn creu goblygiadau damcaniaethol, ymarferol a pholisi o ran sut i drefnu gweithredoedd cynhwysol, cyfannol a theg dan arweiniad pobl a chymunedau i darfu ar systemau cyfalafol, seiliedig ar y farchnad, sy'n cynnal problemau cymdeithasol ac amgylcheddol, ac i drawsnewid y systemau hynny.

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn mynd i'r afael â'r heriau mawr gwerth cyhoeddus megis amodau gwaith boddhaol, adeiladu diwydiant teg a chymdeithasol, a chadwyni ffasiwn cynaliadwy. Rydym yn ymchwilio i strategaethau ar gyfer pontio cyfiawn, teg a chynhwysol i ddiwydiant ffasiwn cylchol, carbon isel.

Lefelau brand a cyflenwyr

Mae FReSCH yn archwilio lefelau cadwyni cyflenwi lluosog. Ar lefel y brand, rydym yn deall datblygiad strategaethau ac adnoddau i raeadru arferion cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol ledled cadwyni cyflenwi. Ar lefel y cyflenwyr a’r is-gyflenwyr, rydym yn datgelu realiti byw cyflenwyr bach a chanolig eu maint, ynghyd â chanlyniadau gofynion economaidd ac amgylcheddol ar amodau gwaith ar draws haenau lluosog.

Mae FReSCH yn cefnogi cynhwysiant a chynrychiolaeth

Rydym yn sicrhau amrywiaeth a chynrychiolaeth o ran rhanddeiliaid a disgyblaethau academaidd gwahanol. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau persbectif mwy cyflawn, realistig a gwreiddiol i greu ymyriadau, gan gynnwys modelau technegol a pherthynol, arferion cymdeithasol ac amgylcheddol, ac ymwybyddiaeth ymhlith nifer o randdeiliaid i ddatblygu dulliau effeithiol ar gyfer pontio teg.

Fashions Responsible Supply Chain Hub
Clothes hanging on a rail in different colours

Ail-lunio’r diwydiant

Mae ffasiwn yn enwog am ei gadwyni cyflenwi cyfrinachol a darniog. Ond mae ein hymchwil yn dangos bod yna atebion syml pan fydd brandiau ffasiwn yn mabwysiadu'r dull cywir lle mae cyfiawnder amgylcheddol, o ran datgarboneiddio, a chyfiawnder cymdeithasol, o ran amodau gwaith teg, yn bodoli ar y cyd. Mae FReSCH yn dangos bod deialogau cymdeithasol cynhwysol a rhyngweithio gonest rhwng cyflenwyr a brandiau yn hanfodol, ac y gall pontio teg ddigwydd pan fydd cynrychiolaeth ac empathi yn cael eu sicrhau wrth wneud penderfyniadau.

Gwerth cyhoeddus

Dr Hakan Karaosman yn trafod ei ymchwil gwerth cyhoeddus:

"Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi fy ysbrydoli erioed, gan mai hon yw'r ysgol fusnes gwerth cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rwy'n diffinio gwerth cyhoeddus fel system gyfannol lle mae gweithredoedd empathi, caredigrwydd a pharch yn gynhenid i greu newid i’r system gyda'r bobl ar gyfer y bobl. Cefais fy magu gan fam a oedd yn gweithio gartref yn gwneud dillad, felly tyfais i fyny mewn cartref a oedd yn rhan o gadwyn gyflenwi ffasiwn. Am hynny, rwy'n ceisio adeiladu a chyflwyno ymchwil â sylwedd trwy sicrhau bod pobl yn flaenllaw ac yn ganolog.

A minnau’n wyddonydd, fy unig uchelgais yw hwyluso newid, ysbrydoli pobl i lunio sgyrsiau, ac amlygu materion anghyfiawnder mewn unrhyw gyd-destun. Nid yw'n hawdd siarad am berthnasoedd pŵer anghytbwys, rhagrith corfforaethol, a thrachwant, ond mae gennyf gyfrifoldeb i beidio â chadw’n dawel.

Mae fy ymchwil yn ymwneud â chadwyni cyflenwi ffasiwn, ond nid yw gosodiad ffasiwn heddiw yn gwobrwyo'r bobl sy'n gweithio ledled rhwydweithiau cymhleth, amlhaenog, tameidiog – ond dyma'r bobl sy'n gwneud ein dillad; dyma'r bobl sy'n gwneud brandiau ffasiwn mor broffidiol. Mae fy ymchwil yn ddatganiad sy'n mynd i'r afael â phwysigrwydd empathi, caredigrwydd, cynhwysiant a thosturi mewn rhwydweithiau cyflenwi cymhleth."

Dr Hakan Karaosman
Dr Hakan Karaosman

Proffil

Picture of Hakan Karaosman

Dr Hakan Karaosman

Uwch Ddarlithydd (Athro Cyswllt)

Telephone
+44 29208 79366
Email
KaraosmanH@caerdydd.ac.uk

Erthyglau academaidd dethol

Erthyglau dethol o blith y cyfryngau rhyngwladol

Cyfraniadau dethol o blith y cyfryngau rhyngwladol