Ffasiwn flaengar: Llwybr at gadwyni cyflenwi moesegol a gwydn
Mae gwaith ymchwil Dr Hakan Karaosman yn dangos agwedd sy’n hanfodol mewn cynaliadwyedd, ond sydd yn aml yn cael ei diystyru: cyfiawnder cymdeithasol.
Yn arbenigwr ar gynaliadwyedd cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi ffasiwn, bu Dr Hakan Karaosman yn brif siaradwr mewn tri chyflwyniad i oddeutu 2,500 o randdeiliaid yn y diwydiant yn ddiweddar.
Bu’n pwysleisio’r rhan allweddol sydd gan gyfiawnder cymdeithasol ym maes cynaliadwyedd, a herio agweddau arferol i lunio diffiniad newydd o beth mae’n ei olygu i greu cadwyni cyflenwi moesegol a gwydn yn y diwydiant ffasiwn.
Roedd y cyflwyniadau’n cynnwys:
- Chwyldroi strategaethau cadwyni cyflenwi cynaliadwy: cyfrifoldeb, eglurder, a dulliau optimeiddio gwerth. Fforwm Ffasiwn Gynaliadwy Fenis. 25 Hydref
- Ffasiwn flaengar: Llwybr at gadwyni cyflenwi moesegol a gwydn. Ffasiwn ar gyfer y Dyfodol a Phrifysgol Fflorens. 18 Hydref
- Una transizione giusta e sostenibile. Uwchgynhadledd 4Sustainability, Process Factory. 3 Hydref
Mae Hakan yn ymhelaethu ar ei waith ymchwil...
“Mae cynaliadwyedd yn cael ei orfodi mewn system amherffaith sy’n blaenoriaethu lleihau costau a gweithredu’n effeithiol uwchlaw pob dim arall. Mae ein gwaith ymchwil ar newid cydwybodol yn dangos sut i roi pobl yn gyntaf wrth gymryd camau er budd yr hinsawdd.
Gan ddefnyddio fy ngwaith ymchwil gyda’r Athro Donna Marshall (Coleg y Brifysgol Dulyn) ar newid cydwybodol mewn cadwyni cyflenwi dillad a thecstilau, mae cwmnïau fel arfer yn fframio ac yn cefnogi datgarboneiddio yn rhywbeth sy’n cael ei ysgogi gan dechnoleg ac arloesedd, gan bwysleisio rhan cwmnïau a marchnadoedd wrth gynnig atebion arloesol ac arbenigol. Ni ddylai’r atebion i’r newid hwn gael eu fframio yng nghyd-destun technoleg i leihau allyriadau yn unig. Er bod cynlluniau datgarboneiddio’n hanfodol, mae’n anwybyddu’r cysyniadau o degwch ac yn peidio â sylwi ar sut y mae cyfiawnder cymdeithasol ac ymddygiad amgylcheddol yn gweithio gyda’i gilydd.
Mae’n gwaith ymchwil yn dangos bod angen ymateb o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol er mwyn deall sut mae datgarboneiddio yn gwaethygu’r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli, a sut mae rhanddeiliaid cadwyni cyflenwi’n gallu cael eu cynnwys yn y newidiadau mewn ffordd gydwybodol, ddemocrataidd a theg. O ystyried bod galluogedd dynol, llywodraethu ac anghydbwysedd grym aml yn cael eu hanwybyddu mewn trafodaethau ynghylch cynaliadwyedd, mae angen bachu ar y cyfle i dynnu sylw at yr angen i bontio’n deg ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Mae’n rhaid datgarboneiddio mewn ffordd gywir, teg a chydwybodol. Mae’n rhaid felly i gyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol gael ei drefnu mewn modd cyfannol. Mae popeth yn dibynnu ar gyd-destun ac mae llawer o ffactorau amodol, felly mae cynnwys a chynrychioli cymunedau sydd ynghlwm â'r gadwyn cyflenwi yn hollbwysig.
Yng nghyd-destun y diwydiant ffasiwn, mae hyn yn golygu canolbwyntio ar gyflenwyr, ffermwyr a gweithwyr. Er mwyn gwneud yn siŵr bod busnesau brandiau ffasiwn yn gallu parhau, mae’n rhaid i’r diwydiant ffasiwn ddeall bod hynny’n ddibynnol ar les cymdeithasol hirdymor y gadwyn gyflenwi.
Rhagor o ddeunydd darllen
- “Achieving socially fair decarbonisation in fashion supply chains”, Sourcing Journal, 17 Hydref 2024
- “Supply chain decarbonisation needs to be people powered” Sustainable Views, The Financial Times, 7 Hydref 2024
- “Empowering young consumers: Understanding the journey of garment and making ethical choices”, Page Magazine, 13 Ebrill 2024
- “How just transition for decarbonisation could be the solution for the fashion industry”, ReMake World, 3 Ebrill 2024
- "Supplier inclusion is key to climate action”, Union of Concerned Researchers in Fashion, 11 Ebrill 2023
- "Fast fashion is out of fashion – is capitalism eventually going to collapse?”, Lampoon Magazine, 28 Mawrth 2023
- "What is just transition not?”, Eco-Age, Chwefror 2023