Ewch i’r prif gynnwys

Profiad X-Culture Dev ac Alex yng Ngwlad Thai

Dev and Alex

Ym mis Gorffennaf 2024, mynychodd Dev ac Alex, myfyrwyr Rheolaeth Ryngwladol (MSc) o Ysgol Busnes Caerdydd, Symposiwm Wythnos Busnes Byd-eang X-Culture yn Chiang Rai, Gwlad Thai.

Yn rhan o’r rhaglen Rheoli Rhyngwladol (MSc), mae myfyrwyr yn ennill profiad busnes rhyngwladol drwy X-Culture, gyda’r 150 o gyfranogwyr gorau ar lefel fyd-eang yn cael eu gwahodd i’r symposiwm bob blwyddyn.

Roedd digwyddiad 2024 yng Ngwlad Thai yn cynnwys prosiect ymgynghori â chleientiaid, sesiynau datblygu proffesiynol, a phrofiadau diwylliannol, gan roi cyfle i Dev ac Alex gydweithio gyda myfyrwyr ac arbenigwyr o bedwar ban byd.

Gwyliwch eu flog

Profiad Dev

Dechreuodd y symposiwm gyda llu o ddarlithoedd cyffrous ynghylch agweddau amrywiol ar arferion busnes byd-eang. Es i sesiynau a oedd yn archwilio i bynciau megis strategaethau marchnata rhyngwladol a thrafodadau busnes traws-ddiwylliannol.

Roedd y darlithoedd hyn yn llawn gwbodaeth ac yn rhyngweithiol hefyd, gan ein hannog i roi’r cysyniadau ar waith drwy weithgareddau grŵp a thrafodaethau.

Diwrnod Diwylliannol a Gweithdai

Un o uchafbwyntiau’r symposiwm oedd y Diwrnod Diwylliannol. Cawsant wisgo dillad anffurfiol, crysau T chwaraeon prifysgol neu ar thema gwlad, ac archwilio treftadaeth gyfoethog Chiang Rai. Roedd taith dywys y ddinas yn cynnwys ymweliadau â'r hen dref a'r Deml Gwyn eiconig, a oedd yn syfrdanol.

Nid yn unig y bu i'r teithiau hyn ganiatáu inni werthfawrogi diwylliant Gwlad Thai, ond roeddent hefyd yn cynnig lleoliad hamddenol i gyfranogwyr gymysgu a rhannu mewnwelediadau o wahanol safbwyntiau byd-eang.

Drwy’r wythnos, bues i’n cymryd rhan mewn ystod o weithdai a oedd yn meithrin sgiliau penodol yn berthnasol i’m hastudiaethau. Bydd y sesiynau ar goginio bwyd Thai a chymysgu diodydd a the Thai yn aros yn y cof yn benodol.

Nid dim ond dysgu sgiliau newydd oedd diben y gweithdai hyn, ond hefyd, deall pwysigrwydd diwylliannol yr arferion. Mae hyn yn hanfodol i unrhyw un sydd am gynnal busnes yng Ngwlad Thai neu gyd-destunau tebyg.

Rhwydweithio gyda chyfranogwyr amrywiol

Roedd ymgysylltu â chyd-gyfranogwyr o wahanol wledydd yn rhoi cipolwg i mi ar wahanol arferion ac arferion busnes, gan wella fy ngallu i lywio amgylcheddau busnes amrywiol. Byddai hyn yn amhrisiadwy i unrhyw fyfyriwr busnes sy’n awyddus i ffynnu mewn marchnad byd-eang.

Roedd y symposiwm yn alinio’n berffaith â’m rhaglen feistr, gan ategu ac ehangu ar y damcaniaethau ry’n ni wedi’u trafod yn y dosbarth. Roedd yn cynnig dull dysgu ymarferol, sy’n wahanol iawn i werslyfrau. Roedd y dysgu drwy brofiad yn arddangos pwysigrwydd sensitifrwydd ac addasrwydd diwylliannol yn y dirwedd busnes byd-eang sydd ohoni.

Ychwanegodd y gweithgareddau cymdeithasol a harddwch tirlun Chiang Rai rywbeth arbennig at y profiad. Roedd pob munud yn gyfle i feithrin cyfeillgarwch a mwynhau golygfeydd godidog gogledd Gwlad Thai, boed hynny yn ystod egwyliau neu’r ciniawa gyda’n gilydd.

I gloi, roedd y profiad yn daith ddysgu heb ei hail, yn llawn cyfnewid diwylliannol a thwf personol. Gwnaeth ategu fy ngyrfa academaidd yn bendant, ond hefyd, fy nealltwriaeth o’r byd, gan fy mharatoi ar gyfer gyrfa yn y maes busnes rhyngwladol.

Heb os, bydd y cysylltiadau a'r gwersi a ddysgwyd yn ystod yr wythnos hon yn Chiang Rai yn dylanwadu ar fy llwybr proffesiynol am flynyddoedd i ddod.

Profiad Alex

Prosiect ymgynghori

Ar gyfer fy mhrosiect ymgynghori yn y symposiwm, cafodd fy nhîm ei baru â Thanapiriya Public Company (TNP) Limited. Ar ôl wythnos o deithiau i warysau a siopau TNP ar draws Gogledd Gwlad Thai, gofynnodd y cwmni am gynllun twf 5 mlynedd ar gyfer eu busnes teuluol proffidiol.

Argymhellwyd ehangu eu marchnad ar-lein trwy greu app, ehangu eu llinell gynnyrch eu hunain, ehangu i Fietnam a gwella gwasanaethau AD ar ôl cynnal dadansoddiad manwl o weithrediadau'r cwmnïau. Ar ddiwedd y cyflwyniad 15 munud, roedd y Prif Swyddogion Gweithredol yn fodlon iawn, a daeth fy nhîm yn ail.

Sesiynau academaidd a gweithgaredd diwylliannol

Roedd y symposiwm yn cynnwys sawl darlith broffesiynol ar agweddau amrywiol ar Wlad Thai. Roedd y sesiwn gyntaf yn seiliedig ar heriau a phryderon ynghylch Basn Afon Mekong, a sut mae cynhyrchu nifer o argaeau yn peri problemau dibendraw.

Roedd y sesiwn gyntaf ar Goridor Economaidd y Dwyrain (EEC) sydd â’r nod o roi hwb i ddatblygiad seilwaith, sydd wedi’i leoli’n strategol ger Bangkok a phorthladdoedd mawr. Y nod yw helpu Gwlad Thai ddatblygu i fod ag economi datblygedig.

Wedi’r sesiynau, cafwyd dosbarth coginio ar gyfer y pryd enwog, Pad Thai, dan arweiniad cogydd profiadol a chymwys iawn. Er mai wythnos ddatblygu busnes oedd y symposiwm, doedd dim modd osgoi harddwch Gwlad Thai. Cawsom daith dywys o’r ddinas Chiang Rai, i gael gweld yr hen dref a’r Deml Gwyn enwog.

Manteision a’r hyn a ddysgwyd

Mae'r profiad symposiwm a X-Culture yn gyffredinol wedi rhoi llawer iawn o fanteision i mi. Mae dod i gysylltiad â diwylliannau amrywiol wedi rhoi gwell ymwybyddiaeth a sensitifrwydd diwylliannol i mi wrth ymhelaethu ar fy sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm, a fydd yn hanfodol mewn bywyd bob dydd a'r gweithle.

Gan fy mod yn fyfyriwr MSc Rheoli Ryngwladol, mae'r symposiwm wedi rhoi cysyniadau busnes rhyngwladol i mi yn y byd go iawn, ac yn bwysicaf oll wedi fy helpu i greu ffrindiau oes.