Amgylchedd dysgu
Rydyn ni'n gwybod fod yr amgylchedd dysgu yn elfen bwysig ar gyfer cyflwyno rhaglenni addysg a hyfforddiant effeithiol a deniadol.
Mae ein Hystafell Weithredol ymroddedig yn cynnig ardal dysgu hyblyg ac o ansawdd uchel. Mae'r awyrgylch hamddenol yn addas ar gyfer gweithgareddau datblygu a rhwydweithio, ac mae'n lle delfrydol ar gyfer sesiynau hyfforddi a gweithdai.
Mae gennym ni hefyd gyfleuster dysgu rhithiol o'r safon uchaf. Mae'r buddsoddiad yma mewn technoleg o'r radd flaenaf yn galluogi ein carfannau i ddysgu'n hyblyg ac yn rhyngweithiol o sawl lleoliad.
Mae gennym ni ystod o gyfleusterau o'r radd flaenaf sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion myfyrwyr ac i ddarparu lle i'n partneriaid busnes a'n rhanddeiliaid eu defnyddio.