Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau Hysbysu dros Frecwast

Mae'r Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Addysg Weithredol yn un o'r ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes leol a'r gymdeithas ehangach.

Mae'r gyfres yn cynnig cyfle i ymarferwyr busnes, llunwyr polisïau, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill, glywed ein hymchwil ddiweddaraf o amrywiaeth o themâu busnes a rheoli. Mae ein siaradwyr amrywiol ac ysbrydoledig yn cynrychioli'r byd academaidd ac ymarfer busnes. Maent yn dod â mewnwelediadau newydd a safbwyntiau gwreiddiol gyda nhw i herio eich safbwyntiau ac ysgogi trafodaeth.

Sesiynau hysbysu cynhwysol

Newidiodd y pandemig ein sesiynau hysbysu dros Frecwast yn sylweddol, gan wella amrywiaeth ein siaradwyr gwadd a'n cynulleidfa. O fewn chwe wythnos o gyfnod clo Gwanwyn 2020, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd ei sesiwn ar-lein cyntaf gan ddefnyddio Zoom, a oedd bryd hynny'n gymharol newydd. Bu'r sesiynau hysbysu hyn o fudd i'n cymuned gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad. Dros y flwyddyn ganlynol, cynyddodd cyfranogiad, gan ein galluogi i wahodd cyflwynwyr o bell ac ymgysylltu â chynulleidfa genedlaethol, gan gyrraedd unigolion a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae ein sesiynau hysbysu o hyd wedi ceisio hwyluso rhwydweithio o fewn y gymuned fusnes. Pan llaciodd y cyfyngiadau, roeddem yn awyddus i ailddechrau digwyddiadau wyneb yn wyneb. Nawr, mae ein sesiynau yn gwbl hybrid, gan ganiatáu i fynychwyr lleol ymuno yn bersonol wrth gynnwys y rhai sydd o bell neu'n methu â mynychu.

Roedd dechrau'r pandemig a'r cyfnodau clo cysylltiedig yn gorfodi newid, ond rydym wedi gallu troi'r sefyllfa'n gadarnhaol, ac mae ein sesiynau hysbysu dros frecwast yn fwy poblogaidd nag erioed. Os ydych wedi colli unrhyw un o'r sesiynau, neu os hoffech adolygu'r hyn a drafodwyd, edrychwch ar ein hadran 'Sesiynau dros frecwast blaenorol' isod.

Ymunwch â ni ar gyfer yr un nesaf: Targedu tŵf rhyngwladol ar ddydd Iau 24 Hydref 2024.

Ymunwch â ni

Ymunwch â Chymuned Ysgol Busnes Caerdydd i dderbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, sesiynau hysbysu dros frecwast, gwybodaeth am gyrsiau a'n cylchlythyrau misol.

Rydym yn awyddus i glywed awgrymiadau ar gyfer pynciau a themâu newydd ar gyfer sesiynau hysbysu yn y dyfodol.

Addysg Weithredol

Mae pynciau diweddar wedi cynnwys cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, adeiladu arloesedd mewn sefydliadau, denu talent i mewn i fusnes, a rheoli gwybodaeth ac atebolrwydd sefydliadol.

Sesiynau hysbysu dros frecwast blaenorol

Challenges and logistics of minting new coin

15 Mehefin 2017

Breakfast Briefing welcomes the Royal Mint's Supply Chain Director

Talking Brexit and market volatility

8 Mai 2017

Breakfast Briefing considers how business can mitigate against Brexit uncertainty

Travelling the DVLA digital motoring journey

28 Mawrth 2017

Breakfast Briefing tells DVLAs digital journey to a near paperless operation

Seeking to solve South Wales’ transport network problems

9 Chwefror 2017

Breakfast Briefing addresses major topic of consternation for businesses and communities

Getting to grips with big data

19 Ionawr 2017

First Breakfast Briefing of 2017 tackles big data

Agile working under the spotlight

11 Tachwedd 2016

Breakfast Briefing considers agile and flexible working

Nurturing talent and increasing employability

8 Medi 2016

Breakfast Briefing hears how Cardiff Business School prepares work-ready graduates

Collaboration to SPARK innovation

14 Gorffennaf 2016

Dean of Research, Innovation & Enterprise discusses innovation with Breakfast Briefing audience

The future of housebuilding? Passivhaus and the UK market

19 Mai 2016

Executive Education Breakfast Briefing welcomed Welsh School of Architecture teacher to discuss the Passivhaus standard