Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau Hysbysu dros Frecwast

Mae'r Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Addysg Weithredol yn un o'r ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes leol a'r gymdeithas ehangach.

Mae'r gyfres yn cynnig cyfle i ymarferwyr busnes, llunwyr polisïau, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill, glywed ein hymchwil ddiweddaraf o amrywiaeth o themâu busnes a rheoli. Mae ein siaradwyr amrywiol ac ysbrydoledig yn cynrychioli'r byd academaidd ac ymarfer busnes. Maent yn dod â mewnwelediadau newydd a safbwyntiau gwreiddiol gyda nhw i herio eich safbwyntiau ac ysgogi trafodaeth.

Sesiynau hysbysu cynhwysol

Newidiodd y pandemig ein sesiynau hysbysu dros Frecwast yn sylweddol, gan wella amrywiaeth ein siaradwyr gwadd a'n cynulleidfa. O fewn chwe wythnos o gyfnod clo Gwanwyn 2020, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd ei sesiwn ar-lein cyntaf gan ddefnyddio Zoom, a oedd bryd hynny'n gymharol newydd. Bu'r sesiynau hysbysu hyn o fudd i'n cymuned gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad. Dros y flwyddyn ganlynol, cynyddodd cyfranogiad, gan ein galluogi i wahodd cyflwynwyr o bell ac ymgysylltu â chynulleidfa genedlaethol, gan gyrraedd unigolion a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae ein sesiynau hysbysu o hyd wedi ceisio hwyluso rhwydweithio o fewn y gymuned fusnes. Pan llaciodd y cyfyngiadau, roeddem yn awyddus i ailddechrau digwyddiadau wyneb yn wyneb. Nawr, mae ein sesiynau yn gwbl hybrid, gan ganiatáu i fynychwyr lleol ymuno yn bersonol wrth gynnwys y rhai sydd o bell neu'n methu â mynychu.

Roedd dechrau'r pandemig a'r cyfnodau clo cysylltiedig yn gorfodi newid, ond rydym wedi gallu troi'r sefyllfa'n gadarnhaol, ac mae ein sesiynau hysbysu dros frecwast yn fwy poblogaidd nag erioed. Os ydych wedi colli unrhyw un o'r sesiynau, neu os hoffech adolygu'r hyn a drafodwyd, edrychwch ar ein hadran 'Sesiynau dros frecwast blaenorol' isod.

Ymunwch â ni ar gyfer yr un nesaf: Targedu tŵf rhyngwladol ar ddydd Iau 24 Hydref 2024.

Ymunwch â ni

Ymunwch â Chymuned Ysgol Busnes Caerdydd i dderbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, sesiynau hysbysu dros frecwast, gwybodaeth am gyrsiau a'n cylchlythyrau misol.

Rydym yn awyddus i glywed awgrymiadau ar gyfer pynciau a themâu newydd ar gyfer sesiynau hysbysu yn y dyfodol.

Addysg Weithredol

Mae pynciau diweddar wedi cynnwys cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, adeiladu arloesedd mewn sefydliadau, denu talent i mewn i fusnes, a rheoli gwybodaeth ac atebolrwydd sefydliadol.

Sesiynau hysbysu dros frecwast blaenorol

Papers and graph on desk

Cyllid ecwiti fel sbardun ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru

14 Mehefin 2022

Sesiwn Hysbysu dros Frecwast gan Fanc Datblygu Cymru

Illustration of rocket flying over increasing bar chart

Sbardun i Dwf Busnes

5 Ebrill 2022

Pedwar busnes yn rhoi cipolwg ar eu trefniadau cydweithio ag Ysgol Busnes Caerdydd

Illustration of tug boat next to a cargo ship

Mynd i'r afael ag argyfyngau’r gadwyn gyflenwi

1 Mawrth 2022

Archwilio arloesedd digidol wrth fynd i'r afael ag argyfyngau'r gadwyn gyflenwi yn ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast diweddaraf

Hand showing ok symbol against yellow background

Are you ok?

1 Chwefror 2022

Neville Southall yn cynnal Sesiwn Hysbysu dros Frecwast ar iechyd meddwl

Team of people sat around a table in a meeting room

Rheoli ym Mhrydain Fawr

16 Tachwedd 2021

Myfyrdodau ar y berthynas rhwng rheoli a pherfformiad busnes yn y DU

Employees at a desk in a modern office

Perchenogaeth gan weithwyr

15 Hydref 2021

Sesiwn Hysbysu dros Frecwast yn trafod manteision perchnogaeth gan weithwyr

Ystadau economi gylchol

12 Mai 2021

Gwerth cymdeithasol a manteision allyriadau carbon wrth addurno’r gweithle

COVID-19 signage in North Wales tourism spot

Cymru yn y Cyfnod Clo

25 Chwefror 2021

Sesiwn Hysbysu dros Frecwast yn edrych ar bwerau datganoledig Cymru yn ystod y pandemig

Graphic of person looking at bitcoin through microscope

Bitcoin dan y chwyddwydr

26 Ionawr 2021

Sesiwn hyfforddi'n trafod cryptoarian drwy lens CUBiD

Mother and daughters in homeworking and homeschooling scenario

Gweithio gartref mewn pandemig byd-eang

15 Rhagfyr 2020

Sesiwn hysbysu'n datgelu canlyniadau meintiol ac ansoddol