Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau Hysbysu dros Frecwast

Mae'r Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Addysg Weithredol yn un o'r ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes leol a'r gymdeithas ehangach.

Mae'r gyfres yn cynnig cyfle i ymarferwyr busnes, llunwyr polisïau, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill, glywed ein hymchwil ddiweddaraf o amrywiaeth o themâu busnes a rheoli. Mae ein siaradwyr amrywiol ac ysbrydoledig yn cynrychioli'r byd academaidd ac ymarfer busnes. Maent yn dod â mewnwelediadau newydd a safbwyntiau gwreiddiol gyda nhw i herio eich safbwyntiau ac ysgogi trafodaeth.

Sesiynau hysbysu cynhwysol

Newidiodd y pandemig ein sesiynau hysbysu dros Frecwast yn sylweddol, gan wella amrywiaeth ein siaradwyr gwadd a'n cynulleidfa. O fewn chwe wythnos o gyfnod clo Gwanwyn 2020, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd ei sesiwn ar-lein cyntaf gan ddefnyddio Zoom, a oedd bryd hynny'n gymharol newydd. Bu'r sesiynau hysbysu hyn o fudd i'n cymuned gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad. Dros y flwyddyn ganlynol, cynyddodd cyfranogiad, gan ein galluogi i wahodd cyflwynwyr o bell ac ymgysylltu â chynulleidfa genedlaethol, gan gyrraedd unigolion a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae ein sesiynau hysbysu o hyd wedi ceisio hwyluso rhwydweithio o fewn y gymuned fusnes. Pan llaciodd y cyfyngiadau, roeddem yn awyddus i ailddechrau digwyddiadau wyneb yn wyneb. Nawr, mae ein sesiynau yn gwbl hybrid, gan ganiatáu i fynychwyr lleol ymuno yn bersonol wrth gynnwys y rhai sydd o bell neu'n methu â mynychu.

Roedd dechrau'r pandemig a'r cyfnodau clo cysylltiedig yn gorfodi newid, ond rydym wedi gallu troi'r sefyllfa'n gadarnhaol, ac mae ein sesiynau hysbysu dros frecwast yn fwy poblogaidd nag erioed. Os ydych wedi colli unrhyw un o'r sesiynau, neu os hoffech adolygu'r hyn a drafodwyd, edrychwch ar ein hadran 'Sesiynau dros frecwast blaenorol' isod.

Ymunwch â ni ar gyfer yr un nesaf: Targedu tŵf rhyngwladol ar ddydd Iau 24 Hydref 2024.

Ymunwch â ni

Ymunwch â Chymuned Ysgol Busnes Caerdydd i dderbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, sesiynau hysbysu dros frecwast, gwybodaeth am gyrsiau a'n cylchlythyrau misol.

Rydym yn awyddus i glywed awgrymiadau ar gyfer pynciau a themâu newydd ar gyfer sesiynau hysbysu yn y dyfodol.

Addysg Weithredol

Mae pynciau diweddar wedi cynnwys cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, adeiladu arloesedd mewn sefydliadau, denu talent i mewn i fusnes, a rheoli gwybodaeth ac atebolrwydd sefydliadol.

Sesiynau hysbysu dros frecwast blaenorol

Busnes Caerdydd yn gorffen blwyddyn lwyddiannus o sesiynau briffio brecwast

25 Gorffennaf 2024

Daeth Ysgol Busnes Caerdydd â’i sesiwn friffio brecwast olaf o’r flwyddyn academaidd 2023-24 i ben gyda sgwrs graff gan Brif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru.

Mynd i'r afael â heriau cynhyrchiant yng Nghymru

30 Ionawr 2024

Mewn sesiwn friffio brecwast roedd y sylw ar yr heriau pwysig i gynhyrchiant yng Nghymru a'r llwybrau posibl tuag at wella.

Dathlu ugain mlynedd o'r Cyflog Byw

10 Rhagfyr 2023

Nododd Ysgol Busnes Caerdydd Wythnos Cyflog Byw 2023 gyda sesiwn friffio brecwast a oedd yn amlygu'r rôl ganolog y mae Prifysgol Caerdydd a Chaerdydd fel dinas yn ei chwarae yn y fenter hon.

Chwalu’r hud o amgylch Deallusrwydd Artiffisial (AI)

13 Tachwedd 2023

Mewn sesiwn friffio dros frecwast yn Ysgol Busnes Caerdydd yn ddiweddar trafodwyd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI).

The recycling symbol - with environment signs around it implying the circular economy

Egluro’r economi gylchol

23 Hydref 2023

Yr economi gylchol oedd canolbwynt digwyddiad briffio diweddar a gynhaliwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd.

A photo of a Greggs shop on a highstreet

Y saws cyfrinachol sy'n gwneud Greggs yn arbennig

14 Awst 2023

Yn y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Brecwast Briffio Ysgol Busnes Caerdydd, rhannodd Prif Swyddog Ariannol Greggs gipolwg unigryw ar y cwmni.

Image of a persons hands at a laptop

Busnes y gyfraith: gweithrediadau, buddsoddi, a moeseg

4 Gorffennaf 2023

The economy of the UK legal sector was the topic of discussion at a recent breakfast briefing hosted by Cardiff Business School.

The 4 panel members stood smiling

Denu pobl fedrus o sawl cwr o’r byd

12 Mai 2023

Roedd manteision cyflogi pobl fedrus o sawl cwr o’r byd a hwyluso proses gofyn am deithebau o dan sylw.

An image of post-it notes on a table with people pointing to them, showing teamwork.

Galluogi gweision cyhoeddus i lwyddo

16 Ionawr 2023

Yr hyn sydd ei angen i fod yn was cyhoeddus yn yr 21ain ganrif oedd y pwnc trafod mewn sesiwn hysbysu dros frecwast a gynhaliwyd yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Image of a football with the Welsh dragon printed on it. The football is on the pitch in a stadium.

Gyda’n gilydd yn gryfach: gwerthoedd a gweledigaethau pêl-droed Cymru

13 Ionawr 2023

Rhoi Cymru ar fap y byd ochr yn ochr â gwerthoedd a gweledigaeth pêl-droed Cymru oedd y pwnc a drafodwyd yn y Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd diweddaraf ar 8 Tachwedd 2022.