Israddedig
Mae ein rhaglenni israddedig sy'n berthnasol i alwedigaethau wedi eu dylunio er mwyn cydbwyso theori a gwaith ymarferol, yn eich helpu i ddod i'r brig mewn marchnad swyddi gystadleuol.
Rydym yn cynnig ystod eang o bynciau modiwl ym mhob rhaglen gradd, sy'n eich galluogi i deilwra eich gradd wrth iddo ddatblygu er mwyn gweddu eich diddordebau a'ch uchelgeisiau gyrfa.
Yn ogystal â hyblygrwydd ein rhaglenni, er mwyn ategu at eu trylwyredd, rydym wedi cyflwyno nifer o gyfleoedd newydd i chi wella eich astudiaeth ac i'ch paratoi chi ar gyfer yr heriau gallwch wynebu yn y byd busnes cyfoes.
Gwella eich sgiliau iaith
Rydym yn byw mewn economi byd-eang lle mae sgiliau iaith wedi dod yn fwyfwy deniadol i gyflogwyr. Gan hynny, rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd i ychwanegu elfen ryngwladol i'ch astudiaethau:
- Gallwch astudio cyfrifeg, bancio a chyllid, economeg busnes, rheoli busnes neu economeg ar y cyd â Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg a threulio eich trydedd flwyddyn yn astudio dramor yn un o'n prifysgolion partner mawreddog.
- Fel arall, gall fyfyrwyr Bsc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) dreulio semester dramor (wrth astudio drwy gyfrwng y Saesneg).
Profiad gwaith
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyflogadwyedd a chynnwys profiad gwaith ymarferol yn ein rhaglenni::
- Gallwch newid i gwrs pedair blynedd gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol, lle byddwch yn treulio blwyddyn mewn diwydiant yn gweithio llawn amser a'n derbyn cyflog.
- Gall fyfyrwyr Bsc Cyfrifeg gymryd mantais o Raglen Partneriaeth Israddedig Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr ac ennill blwyddyn o brofiad gwaith mewn cwmni cyfrifeg neu amgylchedd busnes tebyg.
- Gall fyfyrwyr Bsc Rheoli Busnes wneud cais i dreulio ail semester yr ail flwyddyn yn gweithio gyda chwmni partner yn llawn amser, yn derbyn cyflog.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.