Cyfnewidiadau rhyngwladol sydd i ddod
Mae ein cytundebau cyfnewid cilyddol yn sylfaen ar i’r berthynas waith gref sydd gennyn ni gyda sefydliadau partner ledled y byd, ac rydyn ni’n croesawu nifer sylweddol o fyfyrwyr cyfnewid rhyngwladol i Gaerdydd bob blwyddyn.
Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad ein hymwelwyr cyfnewid rhyngwladol at fywiogrwydd ac amrywiaeth ein cymuned o fyfyrwyr. Rydyn ni’n gwneud ymdrech i sicrhau eu bod yn mwynhau eu hamser gyda ni a’i fod yn werthfawr iddyn nhw – yn academaidd ac yn gymdeithasol.
Eich profiad academaidd yng Nghaerdydd
Rydyn ni’n cynnig ystod eang o fodiwlau busnes yn ystod semester yr Hydref a’r Gwanwyn. Gallwch chi hefyd ymuno â ni fel Myfyriwr blwyddyn gyfan. Yn ystod eich amser gyda ni, byddwch chi’n gallu dewis modiwlau o ddarpariaeth yr ail a’r drydedd flwyddyn ac o bob rhan o’n disgyblaethau –Economeg, Cyfrifeg a Chyllid, aRheolaeth Busnes. Bydd angen i'ch sefydliad cartref a ninnau gytuno ar eich dewisiadau modiwlau.
Mae’r addysgu’n digwydd yn ystod dau semester – yr hydref (o fis Medi i fis Ionawr) a’r gwanwyn (o fis Chwefror i fis Mehefin) – ac mae’n cynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Mae dulliau asesu yn amrywio, ond fel arfer mae'n gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig a gwaith cwrs (megis traethodau, cyflwyniadau neu astudiaethau achos). Bydd trawsgysrifiadau ar gael i'w lawrlwytho o SIMS a gallan nhw gael eu hanfon i'ch prifysgol gartref ar gais.
Gallwch chi ddisgwyl lefel uchel o gefnogaeth a gwasanaeth arbenigol cyn i chi gyrraedd Caerdydd ac ar ôl i chi gofrestru gyda ni. Rydyn ni’n gwneud ymdrech i gynnig llety ar y campws (mewn neuaddau preswyl neu fflatiau myfyrwyr) i bob myfyriwr cyfnewid sy’n dod am flwyddyn academaidd, er na all hyn gael ei warantu. Os ydych chi’n dod am semester, bydd ein tîm Cyfleoedd Byd-eang yn rhoi cyngor i chi ar ddod o hyd i lety yn y sector preifat.
Rhagor o wybodaeth
Natalie James
Swyddog Prosiect Symudedd Rhyngwladol
- carbs-exchange@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 0985
Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar Gaerdydd. Beth sy’n gwneud prifddinas Cymru mor ddeniadol? Dyma ein rhesymau ni dros garu Caerdydd – beth yw eich rhesymau chi?