Astudio dramor fel rhan o’ch gradd israddedig
Lle bynnag yr ewch chi, mae astudio dramor yn brofiad bythgofiadwy.
Cymerwch egwyl o’ch astudiaethau drwy nofio yng Nghefnfor yr India ar arfordir gorllewin Awstralia. Beiciwch drwy strydoedd coblog Nyhavn ym mhrifddinas Denmarc. Dine à la française yng nghysgod y Tŵr Eiffel. Gwyliwch yr haul yn machlud o Victoria Peak yn Hong Kong. Gwnewch eich ffordd drwy lethrau Alpau’r Swistir.
Manteisiwch ar y cyfle i ddatblygu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y Brifysgol a defnyddio sgiliau newydd yn byw ac yn astudio mewn gwlad arall.
Astudio dramor yn Saesneg
Oherwydd ein hagwedd fyd-eang rydym wedi meithrin partneriaethau â phrifysgolion ac ysgolion busnes yn Ewrop a thu hwnt yn Hong Kong, Tsieina, Singapore, De Corea, Japan, Awstralia, UDA a Chanada.
Mae’r partneriaethau hyn yn rhoi’r cyfle i chi dreulio rhan o’ch gradd yn astudio yn yr iaith Saesneg heb fod angen sgiliau iaith dramor datblygedig arnoch.
Mae croeso i holl fyfyrwyr israddedig, a byddwch yn trosglwyddo o fersiwn bedair blynedd o’ch rhaglen radd ac yn treulio eich trydedd flwyddyn dramor.

Cwblheais fy semester dramor ym Mhrifysgol Curtin, Perth, yng ngorllewin Awstralia. Rhaid i chi fanteisio ar y cyfle i astudio dramor fel rhan o’ch gradd os cewch chi. Does dim dwywaith am hynny! Bues i ar sawl taith fythgofiadwy! Uchafbwynt oedd nofio gyda morgwn morfilaidd, y pysgodyn mwyaf yn y môr, yn Rîff Ningaloo ym Mae Coral.
Lleoliadau gwaith dros yr haf

Os byddai’n well gennych astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor dros wyliau’r haf, mae ein Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn trefnu lleoliadau tymor byr – am uchafswm o bedair wythnos – mewn lleoliadau ledled y byd. Gallwch:
- Archwilio pynciau nad ydynt yn gysylltiedig â’ch gradd.
- Datblygu eich gwybodaeth am bynciau sy’n gysylltiedig â’ch gradd.
- Cael profiad gwaith gyda chwmnïau byd-eang a chenedlaethol dramor.
- Cymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli mewn lleoliadau megis Fiji, Japan, Cambodia ac India.
Mae amrywiaeth o ffynonellau ariannu a bwrsariaethau ar gael i helpu i dalu am y costau o fynd dramor. Mae hyn yn golygu bod lleoliadau rhyngwladol yn fwy hygyrch i’n myfyrwyr israddedig.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, cysylltwch â'n Tîm Cyfnewid Rhyngwladol.

Natalie James
Swyddog Prosiect Symudedd Rhyngwladol
- carbs-exchange@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 0985
Mae gennym gysylltiadau â thros 300 o sefydliadau a gallwn gynnig y cyfle i chi dreulio cyfnod ar leoliad yn Ewrop a ledled y byd.