Ewch i’r prif gynnwys

Economeg

Datblygu eich arbenigedd economaidd er mwyn dylanwadu ar ddyfodol y gymdeithas.

Mae economeg yn dylanwadu ar bron bob agwedd ar ein bywydau. O Brexit i gyflogau a chyfoeth, yr amgylchedd ac ynni, i iechyd a digartrefedd, mae gan gymaint o benderfyniadau llywodraethau a busnesau oblygiadau economaidd i bob un ohonon ni.

Byddwn ni’n eich galluogi i ddeall sut mae'r penderfyniadau hyn yn diffinio ein cymunedau ac yn effeithio arnyn nhw. Gyda'n gilydd, byddwn ni’n defnyddio economeg i baratoi atebion ac offer er mwyn dylanwadu ar y byd a gwneud gwahaniaeth.

Byddwch chi’n rhoi theori ar waith wrth fynd i’r afael â materion cymdeithasol a gwleidyddol dybryd gan ddefnyddio technegau mathemategol ac ystadegol datblygedig. Byddwch chi’n ennill gwybodaeth a sgiliau y mae galw mawr amdanyn nhw ymysg cyflogwyr, o fewn sector sy'n cynnig cyflogau a gyrfaoedd rhagorol.

“Yr hyn rwy'n ei hoffi fwyaf am fod yn fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd yw'r athrawon a sut maen nhw'n esbonio'r damcaniaethau ac yn rhoi enghreifftiau ymarferol. Rydw i hefyd wrth fy modd gyda phobl yr ardal. Mae pobl yng Nghaerdydd mor garedig ac yn groesawgar iawn.”

Janil Patel, Economeg (BSc)

Rhaglenni gradd

Ystafell Fasnachu

A chithau’n fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch chi elwa o gael mynediad at ein hystafell fasnachu llawn cyfarpar, a gaiff ei defnyddio’n ffurfiol ar gyfer modiwlau'r ail a'r drydedd flwyddyn, ond sydd hefyd ar gael i’w defnyddio y tu allan i’r amser addysgu.

Mae gennyn ni amryw o feddalwedd fasnachu efelychiadol a fydd yn eich galluogi i roi prawf ar eich galluoedd.