Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Busnes

Enillwch y sgiliau a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod ar y blaen yn eich gyrfa at y dyfodol, i gyd tra'n gosod pobl a phwrpas cyhoeddus wrth galon y busnes.

Gyda ein cefnogaeth, byddwch chi’n datblygu'r arbenigedd a fydd yn bwysig ichi fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd sy'n esblygu ym myd busnes.

Mae ein rhaglenni’n treiddio’n ddwfn i bob agwedd ar fusnes, gan edrych ar feysydd pwysig i ddeall sut maen nhw'n dod ynghyd i greu sefydliadau llwyddiannus. Byddwn ni’n cwmpasu popeth, o gorfforaethau rhyngwladol i fentrau cymdeithasol ac elusennau, gan wneud yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer pob math o sefydliad a sector.

Drwy gyfuno theori ac enghreifftiau ymarferol, byddwn ni’n rhoi ystyriaeth i’r effaith y mae penderfyniadau busnes yn ei chael ar y gymdeithas a'r economi.

Yn dilyn ein blwyddyn gyntaf gyffredinol mewn rheoli busnes, byddwch chi’n mynd ati i ddewis llwybr arbenigol mewn Marchnata, Rheoli Adnoddau Dynol, Rheoli Rhyngwladol, neu Logisteg a Gweithrediadau.

“I was taken aback by the vibrant city, friendly people, and first class university facilities. I’ve made some lifelong friends, grown in independence and confidence, and have left with a thirst for an exciting career in marketing.”

Aylish Chipman BSc Business Management (Marketing) graduate

Rhaglenni gradd

Lleoliad gwaith integredig

Yn ogystal â’r opsiwn i dreulio blwyddyn ar leoliad gwaith neu dramor, rydyn ni hefyd yn rhoi’r cyfle ichi ymgymryd â Lleoliad Gwaith Integredig. Mae’r cyfle hwn â thâl sy'n para 20 wythnos yn caniatáu ichi gymhwyso'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn y brifysgol mewn lleoliad go iawn.

Mae hyn yn cynnwys:

  • lleoliad gwaith sy’n para pum mis (yn ystod ail semester yr ail flwyddyn)
  • Profiad o gario credyd
  • Lleoliad â thâl
  • profiad ymarferol seiliedig ar waith
  • contract y mae modd ei ymestyn drwy ddod i gytundeb.

Llwybr at radd

Rydyn ni wedi datblygu rhaglen llwybr at radd i'ch helpu i astudio tuag at radd israddedig mewn Rheoli Busnes (BSc).

Caiff ein rhaglenni llwybrau eu haddysgu a'u hasesu mewn ffyrdd tebyg i gyrsiau israddedig blwyddyn gyntaf, ac maen nhw’n cynnig dewis amgen i gymwysterau Safon Uwch a mynediad eraill.

Byddwch chi’n ennill profiad uniongyrchol o astudio mewn amgylchedd addysg uwch bywiog, gan eich arfogi â’r adnoddau a'r technegau y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo mewn rhaglen radd israddedig.

Mynnwch ragor o wybodaeth ar sut i ymuno â Rhaglen Llwybr at Radd, ac astudio gyda ni yn un o’r ysgolion busnes a rheoli mwyaf blaenllaw yn y DU.