Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifeg a Chyllid

Datblygu'r sgiliau a'r arbenigedd er mwyn llywio dyfodol ariannol y diwydiannau.

Mae cyfrifeg a chyllid yn hollbwysig i lwyddiant unrhyw fusnes yn yr economi fyd-eang. Os oes gennych chi ddawn am rifau ac angerdd dros gael effaith gadarnhaol ym maes busnes, dyma eich cyfle i wneud cyfraniad ystyrlon i’r gymdeithas a'r economi.

Byddwn ni’n eich arfogi â’r sgiliau a'r ddealltwriaeth broffesiynol hanfodol y mae galw mawr amdanyn nhw ymysg cyflogwyr, mewn sector sy'n cynnig gyrfaoedd rhagorol. Cewch chi gyfle i gyfuno theori ac ymarfer wrth fynd i wraidd senarios cyfrifeg a chyllid yn y byd go iawn.

Mae ein partneriaeth â Bloomberg, sef un o’n Partneriaid Dysgu Profiadol, yn ein gosod ar flaen y gad ym maes dysgu drwy brofiad. Rydyn ni wedi integreiddio ymarferion Bloomberg ar draws ein cwricwlwm, sy’n cael ei addysgu yn ein Hystafell Fasnachu o’r radd flaenaf.

Cewch chi eich addysgu gan ein staff, sy’n arbenigwyr o fri rhyngwladol yn y maes pwnc, ac sy’n dod â chyfoeth o brodiad o’r diwydiant ac ymchwil flaenllaw i’n dull addysgu.

"Mae’r cwrs yn ddewis gwych i’r rhai sy’n dda gyda rhifau ac sydd â diddordeb mewn gweithio mewn ystod eang o ddiwydiannau, megis cyllid, cyfrifeg, bancio neu ymgynghori. Gellir defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth y byddwch yn eu datblygu mewn amrywiaeth o rolau gwahanol."

Ashley Rogers, Cyfrifeg a Chyllid (BSc 2017)

Mae ein rhaglenni wedi’u hachredu gan Gyrff Proffesiynol. Felly, yn amodol ar lwyddo mewn modiwlau penodol, gallwch chi gael credyd ar gyfer yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu'n flaenorol a chewch chi eich eithrio o nifer o’r arholiadau cymhwyster proffesiynol ar y lefel gyntaf y mae'r cyrff hyn yn ei chynnig.

Y cyrff proffesiynol sy'n cynnig eithriadau yw:

Rhaglenni gradd

Lleoliadau gwaith

Yn rhan o Raglen Partneriaeth Israddedig (UPP) Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr, gallwch chi wneud cais i gychwyn ar leoliad gwaith â thâl sy’n para am flwyddyn gyda chwmnïau cyfrifeg, gan gyflymu eich llwybr at gymhwyster proffesiynol.

Llwybr at radd

Rydyn ni wedi datblygu rhaglen llwybr at radd i'ch helpu i astudio tuag at radd israddedig mewn Cyfrifeg (BSc).

Caiff ein rhaglenni llwybrau eu haddysgu a'u hasesu mewn ffyrdd tebyg i gyrsiau israddedig blwyddyn gyntaf, ac maen nhw’n cynnig dewis amgen i gymwysterau Safon Uwch a mynediad eraill.

Byddwch chi’n ennill profiad uniongyrchol o astudio mewn amgylchedd addysg uwch bywiog, gan eich arfogi â’r adnoddau a'r technegau y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo mewn rhaglen radd israddedig.

Mynnwch ragor o wybodaeth ar sut i ymuno â Rhaglen Llwybr at Radd, ac astudiwch gyda ni yn un o’r ysgolion busnes a rheoli mwyaf blaenllaw yn y DU.