Israddedig
Byddwn ni’n eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ac yn eich galluogi i gael effaith ystyrlon ac er gwell ar fyd busnes.
Yn hyblyg, ymarferol ac yn canolbwyntio ar y dyfodol, mae ein rhaglenni gradd wedi'u cynllunio i roi'r arbenigedd i chi fynd i'r afael â heriau busnes, rheolaeth ac arweinyddiaeth gyfoes.
Beth bynnag fo'ch diddordebau, byddwch chi’n rhoi theori ar waith ac yn mynd i'r afael ag astudiaethau achos yn y byd go iawn sy'n deillio o'n gwaith ymchwil blaengar a'n rhwydwaith o bartneriaid busnes.
Byddwn ni’n rhoi'r sgiliau hanfodol a’r meddylfryd blaengar i chi i ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.
Ennill profiad ymarferol
Rydyn ni wedi ymgorffori profiad gwaith ymarferol yn ein rhaglenni, gan roi'r adnoddau i chi lwyddo a'r profiad i wneud gwahaniaeth:
- Gallwch chi ddewis trosglwyddo i bedair blynedd gyda rhaglen radd Lleoliad Proffesiynol, lle byddwch chi’n treulio blwyddyn mewn diwydiant ar sail amser llawn, cyflogedig.
- BSc Cyfrifeg Gall myfyrwyr fanteisio ar y Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW) Rhaglen Partneriaeth Israddedig (UPP) ac ennill blwyddyn o brofiad gwaith mewn cwmni cyfrifeg proffesiynol neu amgylchedd busnes tebyg.
- BSc Rheoli Busnes Gall myfyrwyr wneud cais i dreulio ail semester yr ail flwyddyn yn gweithio gyda chwmni partner ar sail amser llawn, cyflogedig.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.