MBA Caerdydd
Cymerwch gam mawr ymlaen yn eich gyrfa gyda chyfnod astudio â ffocws a datblygiad personol.
Ydych chi’n weithiwr proffesiynol uchelgeisiol sy’n ceisio symud ymlaen at uwch-arweinyddiaeth a gyrru newid cadarnhaol ym maes busnes? Os dyna’r union beth ichi, yna mae MBA Caerdydd yn gam nesaf gwych.
Beth bynnag yw eich cefndir yn rheolwr, rydym yn cynnig profiad heriol a fydd yn eich ymestyn ac yn eich cefnogi, yn datblygu eich gwybodaeth am fusnes, yn gwella eich hunanymwybyddiaeth ac yn mireinio eich gallu fel arweinydd effeithiol ac ysbrydoledig.
Manteisiwch ar y cyfle hwn i ffynnu ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol sydd o’r un anian â chi wrth ystyried effeithiau masnachol, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach penderfyniadau ar fusnes byd-eang.
Newid y byd yw ein busnes ni. Gyda’n gilydd, gallwn gyflawni pethau gwych.
Rhagor o wybodaeth
Ysgoloriaethau
Profiad dysgu unigryw
Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar eich cwrs MBA, fel y gallwch wneud cyfraniad cadarnhaol i'r byd o'ch cwmpas yn ystod eich astudiaethau a’r tu hwnt.
- Beth am gamu i mewn i’r rhaglen a chymuned ddysgu Caerdydd, trwy raglen sydd wedi’i chreu yn arbennig i roi cymorth i chi ymgynefino, ac er mwyn adeiladu tîm.
- Defnyddiwch y Gwasanaeth Mantais Gyrfa, lle mae Ymgynghorydd Gyrfa a hyfforddwr personol ar gael i ddarparu datblygiad proffesiynol personol.
- Aseswch eich gallu i arwain, pennu trywydd datblygu personol ac adeiladu sgiliau arwain allweddol ar ein rhaglen bwrpasol, holl gynhwysfawr.
- Manteisiwch ar Gysylltiadau Caerdydd; dewch yn rhan o’r gymuned fusnes drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, mynediad at arweinwyr busnes a chyn-fyfyrwyr.
Mae MBA Caerdydd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y ffordd rydyn ni’n asesu eich gwaith. Gan efelychu’r gweithle, byddwch chi’n gweithio yn unigol ac yn rhan o dîm i gwblhau tasgau asesu sy’n cwmpasu strategaeth, personél, ymgynghoriaeth, arloesedd ac argyfwng.
Mae’r strwythur hwn yn eich galluogi i addasu eich rhaglen MBA ar chwech o fodiwlau sy’n canolbwyntio ar her gyda chyfle i fod yn hyblyg er mwyn cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa.
Cwrdd â Chyfarwyddwr y Rhaglen MBA
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, cysylltwch â ni. Byddwn wrth fy modd yn clywed gennych chi.
Dr Saloomeh Tabari
Darlithydd mewn Marchnata a Strategaeth
Mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaeth Ôl-raddedig a Addysgir i gynorthwyo myfyrwyr Cartref a’r UE sydd eisiau astudio rhaglen Meistr.