Rhaglenni agored
Rydym yn cynnig nifer o raglenni cyffrous sy'n eich galluogi i gael safbwyntiau newydd ar amrywiaeth o faterion busnes a rheoli.
A ninnau’n sefydliad a arweinir gan ymchwil, gallwch fod yn sicr bod ein haddysgu yn deillio o’r syniadau mwyaf diweddar. Caiff ei gyflwyno trwy amrywiaeth o wahanol ddulliau, astudiaethau achos, efelychiadau a chymwysiadau ymarferol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n effeithiol.
Ein cyrsiau
Dylinio Gwasanaeth
Bydd y cwrs un diwrnod hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o gysyniadau craidd Dylunio Gwasanaethau.
Wedi'i hwyluso gan Sarah Lethbridge, byddwch yn dysgu am adnoddau sy’n eich helpu i ddeall eich cwsmeriaid yn well fel y gallwch ailgyfeirio a theilwra eich gwasanaethau i’r hyn y mae eich cwsmeriaid ei angen a’i eisiau.
Darganfyddwch fwy am gynnwys y cwrs.
Haen Felen a Gwyrdd Lean Six Sigma
Ymunwch â'r Athro Maneesh Kumar ar y rhaglen bum niwrnod hon a fydd yn rhoi'r adnoddau a'r technegau sydd eu hangen arnoch i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eich prosesau busnes.
Mae’r hyfforddiant Haen Felen a Haen Wyrdd yn cael ei achredu gan Lean Competency System (LCS), at Lefel 1a a Lefel 1c. Mae yna brawf ar-lein trwy Ganolfan Asesu LCS, ac mae angen prosiect gweithredu fel rhan o’r asesiad Gwregys Gwyrdd.
Rhaglen Arbenigol Arferion Di-wastraff
Mae'r rhaglen ddwys 5 diwrnod hon yn cyfuno pŵer lleihau gwastraff Lean Six Sigma wedi'i yrru gan ddata â thechnolegau Diwydiant 4.0. Bydd yn rhoi'r dulliau a'r technegau i chi ar gyfer gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithrediadau a datgloi gwelliannau trawsnewidiol o fewn eich sefydliad a'i gadwyn gyflenwi. Mae ganddo'r potensial i gael effaith gwerth dros £30,000 ar eich elw o fewn 3-4 mis i brosiect Green Belt.
Bydd yn rhoi cipolwg newydd i'r rheini sydd eisoes yn meddu ar ddealltwriaeth dda o arferion di-wastraff, yn ogystal â'r rheini sydd â phrofiad o gymhwyso arferion diwastraff mewn cyd-destun gweithgynhyrchu ac am ddeall y cyfraniadau diweddaraf a ganfuwyd ym myd gwasanaeth.
Bydd safbwyntiau gwahanol a blaengar am amrywiaeth o fethodolegau gwella yn cael eu cyflwyno a bydd eu cryfderau a'u gwendidau'n cael eu gwerthuso'n feirniadol. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd gan y rhai a gymerodd ran ddealltwriaeth ddofn o'r meddylfryd diweddaraf yn y maes gwella.
Rhaglenni craidd
Ein rhaglenni craidd yw sail yr Addysg Weithredol a gynigir gennym ac maent yn cynnwys ffocws ar arweinyddiaeth, arloesedd ac effeithlonrwydd mewn busnes.
Cynhelir y rhaglenni hyn bob hyn a hyn drwy gydol y flwyddyn a byddant yn cael eu hysbysebu ar dudalennau ein digwyddiadau pan fyddant ar gael. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tim executive-education@caerdydd.ac.uk.
Gwireddu Potensial Menywod sy’n Arwain
Yn dilyn llwyddiant cynllun Datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, a hwylusir gennym ni a'r asiantaeth ddatblygu Chwarae Teg, bydd y rhaglen hon yn helpu sefydliadau i wneud yn iawn am anghydraddoldeb yn eu huwch-dîm rheoli.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fyfyrio, hyfforddi a thrwy werthusiadau grŵp o ganfyddiadau ein hymchwil academaidd. Dyma raglen ddatblygu drawsnewidiol a anelir yn feirniadol at ddynion a menywod; bydd y cynllun hwn yn helpu sefydliadau sy'n awyddus i gyflawni cynrychiolaeth o 50:50 erbyn 2020.
Arwain a Gweinyddu Busnes
Yn unol â'n strategaeth Ysgolion newydd, bydd y rhaglen arweinyddiaeth hon yn eich cynorthwyo i werthfawrogi manteision o ymdrin â busnes drwy ddefnyddio dulliau moesegol, un sy'n deall pwysigrwydd cyfrannu at y gymdeithas yn ogystal â chreu elw.
Byddwch chi’n cael eich gwahodd i ymchwilio a thrafod yr heriau mawr sy'n wynebu’r gymdeithas ac, mewn partneriaeth â rhai o'r sêr disgleiriaf ym myd arweinyddiaeth, rheolaeth gyhoeddus a llywodraethiant, dechrau codi ac ymateb i'r heriau hyn.
Rhaglen Arloesedd Caerdydd
Mae'r rhaglen hon yn dod â’r Athro Robert Morgan a Dr Joe O'Mahoney at ei gilydd. Mae’r ddau yn arweinwyr meddwl yn eu maes, a byddan nhw’n gweithio gyda sefydliadau i: asesu eu gallu arloesol presennol a datblygu gallu’r sawl sy’n cymryd rhan i arloesi er mwyn defnyddio a chynyddu eu potensial i arloesi yn effeithiol.
Bydd ein hastudiaeth achos Dŵr Cymru yn rhoi gwell dealltwriaeth ichi o sut y gall y rhaglen hon weithio yn eich sefydliad.
Syniadau Arloesol i Wella Gwasanaethau
Rydyn ni’n cynnig safbwynt unigryw o ran gwella gwasanaethau i sefydliadau ac unigolion, diolch i’n hanes clir a diymwad o ran gwella. Mae’r cwrs hwn yn trafod mathau gwahanol o ddulliau arloesi a gwella gwasanaethau.
Mae’n eich cynorthwyo i ddeall ac ymarfer ystod o dechnegau, tra y byddwch chi’n ystyried natur ymarferol sut i ddefnyddio’r tactegau hyn yn eich sefydliad, gan fynd â holl fryd a meddyliau pobl.
Lean Six Sigma
Rhaglen ymarferol yw’r hyfforddiant pum niwrnod Gwregys Gwyrdd a Melyn Lean Six Sigma hwn. Ar ôl y rhaglen byddwch chi’n gallu dechrau defnyddio’r offer a’r technegau i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd prosesau busnes, ni waeth beth yw math neu faint y diwydiant.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cyrsiau hyn, cysylltwch â ni:
John Parry-Jones
Rheolwr Cysylltiadau Busnes
- Siarad Cymraeg
- parry-jonesj1@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5723
Angharad Kearse
External Engagement Officer, Executive Education
- Siarad Cymraeg
- kearsee@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 0873
Addysg Weithredol
Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.