Cronfa Ddata Bitcoin Prifysgol Caerdydd (CUBiD)
Mae CUBiD yn darparu haenau gwahanol o ddata crai a data wedi’i brosesu. Mae ein tîm yn cynnig cyngor mewnol a datrysiadau pwrpasol i hwyluso eich gofynion dadansoddi data.
Ynghylch CUBiD
CUBiD yw'r platfform cyntaf o'i fath i alluogi defnyddwyr i gael gafael ar ddata rhwydwaith Bitcoin strwythuredig heb sgiliau TG uwch. Cafodd CUBiD ei datblygu a'i chreu yn 2020 gan Dr Hossein Jahanshahloo, Darlithydd Cyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd, er mwyn galluogi mynediad rhwydd at yr ystod o ddata rhwydwaith Bitcoin mewn fformat strwythuredig a defnyddiol.
Er ei fod ar gael i'r cyhoedd, nid yw data rhwydwaith Bitcoin yn cael ei ddefnyddio'n aml. Mae hyn oherwydd cymhlethdodau ynghylch strwythuro'r data Bitcoin crai. Mae'r problemau'n codi yn ystod camau amrywiol trefnu'r data, o gasglu a glanhau i wirio a dilysu.
Yn hyn o beth, mae CUBiD yn golygu bod data rhwydwaith Bitcoin ar gael i bawb.
Pwy all ei defnyddio?
Gellir defnyddio CUBiD at ddibenion addysgu ac ymchwil gan academyddion, rheoleiddwyr ac ymarferwyr. Mae'r cymwysiadau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- atal gwyngalchu arian
- cyfrifeg
- prisio asedau
- dadansoddi cadwyni
- osgoi talu trethi
- dylunio cryptoarian
- systemau prosesu trafodion
- damcaniaethau economaidd cryptoarian
- arian digidol banciau canolog
- seibr-ddiogelwch
- canfod twyll
- datblygu algorithm at ddibenion rheoleiddio
- dynameg economaidd trafodion
- creu blociau
- rhyngweithiadau rhwydwaith defnyddwyr
Strwythur CUBiD
Mae CUBiD yn cynnwys dwy haen data. Mae'r haen gyntaf (Haen 1) yn cynnwys y data rhwydwaith Bitcoin crai ac yn cynnwys tri thabl: Pennawd Bloc, Trafodion a Manylion Trafodion.
I'ch cefnogi chi ymhellach a lleihau amser ac anghenion cyfrifiadurol, mae CUBiD yn cynnig data'r ail haen (Haen 2). Wrth glicio botwm, bydd CUBiD yn darparu dadansoddiad manwl pellach ar flociau, trafodion, cyfeiriadau a gweithgareddau waled.
Mae CUBiD hefyd yn cynnig cyngor mewnol a datrysiadau pwrpasol.
Llawlyfr defnyddwyr
Llawlyfr Defnyddwyr CUBiD
Mae Llawlyfr Defnyddiwr CUBiD yn cynnig gwybodaeth fanwl am y tablau a'r newidynnau sydd wedi'u cynnwys.
Rhowch gynnig ar CUBiD
Cysylltwch â thîm CUBiD i gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais i dreialu ein platfform am ddim.